main logo

Bioleg - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00045
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

A yw’n ddiogel bwyta bwyd sydd wedi’I addasu’n enetig? A yw’n bosib clonio bodau dynol? Beth allwn ni wneud am newid hinsawdd? A fyddwn ni’n gallu dod o hyd I driniaeth I wella AIDS? Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cwestiynau fel hyn, yna Bioleg yw’r pwnc I chi.

Yn y labordy bydd digon o sesiynau ymarferol a byddwch yn eu defnyddio i’ch helpu I ddatblygu sgiliau ar gyfer eich arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol. Mae’r pynciau y byddwch yn eu hastudio’n cynnwys - y galon, y system dreulio, DNA, cellraniad, y system nerfol, dosbarthiad a bioamrywiaeth. Byddwch hefyd yn edrych ar - dwf poblogaeth, ffotosynthesis, resbiradu, etifeddiaeth enetig, peirianneg enetig a thechnoleg genynnau.

Mae'r cwrs Bioleg Safon Uwch yn dilyn manyleb CBAC ac yn adeiladu ar y testunau a gafodd eu hastudio ar lefel TGAU. Mae’r meysydd astudio lefel UG yn cynnwys strwythur celloedd, maetheg a chludiant mewn planhigion ac anifeiliaid. Ar lefel Safon Uwch, bydd yr astudiaeth yn ehangu I ystyried cymwysiadau ehangach Bioleg, fel microbioleg, homeostasis, geneteg a therapi genynnau. Bydd y pynciau hyn yn cael eu cyflwyno trwy ddau fodiwl theori ym mhob blwyddyn o'r rhaglen.

Uned 1: Biocemeg Sylfaenol a Threfniadaeth Celloedd:
Moleciwlau biolegol, strwythur celloedd a threfniadaeth, cellbilenni a chludiant, adweithiau cellol sy’n cael eu rheoli gan ensymau, asid niwclëig a’u swyddogaeth, mitosis a meiosis.

Uned 2: Bioamrywiaeth a Ffisioleg Systemau’r Corff:
Dosbarthiad a bioamrywiaeth, addasiadau ar gyfer cyfnewid nwyon, addasiadau ar gyfer cludiant mewn planhigion ac anifeiliaid, addasiadau ar gyfer maethiad.

Uned 3: Egni, Homeostasis a’r Amgylchedd:
Pwysigrwydd adenosin triffosffad (ATP), ffotosynthesis, resbiradaeth, microbioleg, maint poblogaeth ac ecosystemau, effaith y boblogaeth ddynol ar yr amgylchedd, homeostasis a’r aren, y system nerfol. Cysyniadau craidd o Uned 1 (yn gallu cael eu hasesu ar unrhyw gynnwys o uned 3).

Uned 4: Amrywiaeth ac Etifeddiaeth:
Atgenhedlu rhywiol - dynol, atgenhedlu rhywiol - planhigion, etifeddiaeth, amrywiaeth ac esblygiad, cymhwyso atgenhedlu a geneteg, unedau dewisol 1 o 3 (bydd y tiwtoriaid yn penderfynu arnynt). A: Imiwnoleg a chlefyd. B: Anatomi cyhyrsgerbydol dynol. C: Niwrofioleg ac ymddygiad. Cysyniadau craidd o Uned 1 (yn gallu cael eu hasesu ar unrhyw gynnwys o uned 4).

Uned 5: Ymarferol
Rhaid cadw cofnod o’r gwaith ymarferol mewn llyfr labordy fel tystiolaeth ar gyfer yr arholiad ymarferol. Gall yr arholiad fod yn seiliedig ar unrhyw un o’r sesiynau ymarferol penodedig neu ar unrhyw gynnwys theori sydd wedi’u gwneud fel rhan o unrhyw uned yn ystod y ddwy flynedd o astudio.
Bydd Uned 1 a 2 yn cael eu hasesu drwy arholiad ysgrifenedig 1½ awr gyda chwestiynau fydd yn ymwneud â phrofiad ymarferol. Bydd y ddwy uned hyn yn cyfrannu at y cymhwyster UG a gyda’i gilydd byddant yn ffurfio 40% o’r cymhwyster Safon Uwch llawn.

Bydd Unedau 3 a 4 yn cael eu hasesu trwy arholiad ysgrifenedig 2 awr. Bydd y ddwy uned hyn yn ffurfio 50% o’r cymhwyster Safon Uwch llawn.
Yn y papurau ar gyfer Unedau 1-4 bydd cwestiynau yn seiliedig ar waith ymarferol penodol a wneir yn ystod y cwrs.

Mae uned 5 wedi’i chadw ar gyfer arholiad ymarferol a fydd ar ddechrau tymor yr haf sydd werth 10% o’r cymhwyster Safon Uwch.

Caiff arholiadau ffug mewnol eu cynnal er mwyn darparu profiad realistig o sefyll y papurau o dan amodau arholiad.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (iaith gyntaf) a bodloni’r meini prawf canlynol:

Gradd B/6 neu uwch mewn TGAU Mathemateg haen uwch – Gradd B/6 neu uwch mewn TGAU
Gwyddoniaeth haen uwch yn y Wyddoniaeth rydych yn dymuno ei hastudio.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae Bioleg Safon Uwch yn cael ei adnabod fel cymhwyster academaidd cydnabyddedig ar gyfer mynediad i bob sefydliad Addysg Uwch. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr Bioleg yn mynd i’r brifysgol i astudio am raddau yn y gwyddorau biolegol, gwyddorau’r dyfodol, e.e. gwyddorau biofeddygol, gofal iechyd, geneteg, biotechnoleg, ffarmacoleg, bioleg amgylcheddol a microbioleg. Mae Bioleg Safon Uwch yn benodol yn cefnogi’r gwaith theori a gaiff ei chwmpasu mewn cyrsiau gradd mewn meddygaeth, milfeddygaeth a deintyddiaeth. Mae hefyd yn gymhwyster gwerthfawr ar gyfer mynediad i broffesiynau gofal iechyd fel seicoleg, offthalmoleg, ffarmacoleg, nyrsio a bydwreigiaeth.
Efallai bydd angen prynu gwisg a/neu offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o fanylion.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?