Dyluniwyd y cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno mynd ymlaen i gyrsiau addysg uwch neu gyflogaeth, lle byddai gwybodaeth gyfrifiaduregol yn fuddiol. Yn yr oes dechnolegol hon mae astudio cyfrifiadureg, yn benodol sut y defnyddir cyfrifiaduron i ddatrys amrywiaeth o broblemau, yn dod yn sgil gwerthfawr. Bydd y cwrs hwn, sy’n rhoi pwyslais ar echdynnu data, datrys problemau cyffredinol, rhesymeg fathemategol ac algorithmig, sgiliau meddwl gwyddonol a pheirianegol, yn sylfaen dda ar gyfer deall heriau’r dyfodol.
Mae’r cwrs Safon Uwch Cyfrifiadureg yn annog dysgwyr i ddatblygu:
• Dealltwriaeth o, a’r gallu i gymhwyso egwyddorion a chysyniadau sylfaenol cyfrifiadureg, yn cynnwys echdynnu, dadelfennu, rhesymegu, algorithmau a chynrychioli data.
• Y gallu i ddadansoddi problemau mewn termau cyfrifiadurol, a drwy brofiad ymarferol o ddatrys problemau o’r fath, gan ddefnyddio methodoleg wrthrychol.
• Y gallu i feddwl yn greadigol, arloesol, dadansoddiadol, rhesymegol a beirniadol.
• Y gallu i weld y berthynas rhwng gwahanol agweddau cyfrifiadureg.
• Sgiliau mathemategol – mae cyfrifiadureg yn defnyddio mathemateg i fynegi ei ddeddfau a’i brosesau cyfrifiadureg e.e. algebra Booleaidd, cymharu cymhlethdod algorithmau, cynrychioliadau rhif a seiliau.
• Y gallu i esbonio cyfleoedd a risgiau unigol (moesol), cymdeithasol (moesegol), cyfreithiol a diwylliannol technoleg ddigidol.
Mae Cyfrifiadureg yn cyd-fynd yn dda gyda phynciau ar draws y cwricwlwm. Mae’n galw am ddisgyblaeth resymegol a chreadigrwydd dychmygol wrth ddewis a dylunio algorithmau ac wrth lunio, profi a chywiro rhaglenni. Mae’n dibynnu ar ddealltwriaeth ynghylch rheolau iaith ar lefel sylfaenol, ac mae’n annog ymwybyddiaeth o drefniadaeth a rheolaeth systemau cyfrifiadurol.
Gall unigolyn astudio Cyfrifiadureg a mynd ymlaen i yrfa ym maes peirianneg, busnes, fforensig, gemau, amlgyfrwng neu unrhyw fath o wyddoniaeth.
Uwch Gyfrannol (40% o’r Safon Uwch llawn)
Uned 1 – Hanfodion Cyfrifiadureg. Mae’r uned hon yn edrych ar bensaerniaeth cyfrifiaduron, cyfathrebu, cynrychioli data, strwythurau data, rhaglenni meddalwedd, rhaglenni, algorithmau, rhesymeg, methodolegau rhaglennu ac effaith cyfrifiadureg ar gymdeithas.
Uned 2 – Rhaglennu ymarferol i ddatrys problemau. Mae’r uned hon yn cynnwys cyfres o dasgau penodol sy’n cael eu cwblhau gan yr ymgeiswyr ar y sgrîn. Bydd y tasgau hyn yn asesu cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth yn ymarferol, a bydd yn ofynnol defnyddio Visual Basic.Net fel iaith rhaglennu.
Safon Uwch (yr uchod ynghyd â 3 uned arall)
Lefel A2 (60% o’r Safon Uwch llawn)
Uned 3 – Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar ddadansoddi algorithmau, strwythurau data, rhesymeg, methodolegau rhaglennu ac effaith cyfrifiadureg ar gymdeithas.
Uned 4 – Uned pensaernïaeth cyfrifiaduron, data, cyfathrebu a rhaglenni sy’n ymchwilio i bensaerniaeth cyfrifiaduron, cyfathrebu, cynrychioli data, trefniadaeth a strwythur data, rhaglenni, algorithmau a rhaglenni meddalwedd.
Uned 5 – Datrysiad wedi’i raglennu – uned heb arholiad lle bydd yr ymgeisydd yn trafod, ymchwilio, dylunio, creu prototeip, mireinio a gweithredu, profi a gwerthuso datrysiad cyfrifiadurol i broblem benodol a ddewiswyd gan yr ymgeisydd, y mae’n rhaid ei datrys gan dddefnyddio cod gwreiddiol (rhaglennu). Mae hwn yn ddarn o waith sylweddol, a wneir dros gyfnod amser estynedig.
Y brif iaith raglennu ar gyfer Cyfrifiadureg Uwch Gyfrannol / Safon Uwch yw Visual Basic.Net 2015. Serch hynny, cefnogir amrediad o wahanol ieithoedd ar lefel Safon Uwch.