main logo

Y Gyfraith - lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00050
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs yn archwilio sut mae’r system gyfreithiol yn gweithio ac yn ystyried ei effeithiolrwydd. Byddwch yn darganfod gwahanol ffynonellau’r gyfraith megis y Senedd, Cynulliad Cymru ac Uchelfraint Frenhinol. Byddwch yn gwerthuso dylanwadau ar y gyfraith ac ar ddiwygio’r gyfraith. Bydd y cwrs yn gwella eich dealltwriaeth o sut mae’r gyfraith yn gweithio’n ymarferol, gan astudio systemau’r llysoedd sifil a throseddol, a dedfrydu. Byddwch yn archwilio cyfraith Tort hefyd, sy’n cynnwys hawliadau sifil. Mae hyn yn cynnwys elfennau cyfreithiol sydd yn rhaid eu profi, a sut mae iawndal yn cael ei gyfrifo. Byddwch hefyd yn astudio rhai achosion diddorol a rhyfedd, a chael cyfle I gymryd rhan mewn dadleuon a ffug dreialon. Yn yr ail flwyddyn byddwch yn archwilio’n feirniadol sut mae’r gyfraith yn cael ei gorfodi a’r heddlu. Byddwch hefyd yn astudio cyfraith droseddol, y broses treialon troseddol, a hawliau dynol.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf:

Natur Cyfraith a Systemau Cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr
· Gwneud cyfreithiau
· Deddfwriaeth ddirprwyedig, datganoli a Chynulliad Cymru
· Dehongliad statudol
· Cyfreithiau blaenorol a chyfreithiau achos
· Llysoedd Sifil
· Y Broses Droseddol

Cyfraith Tort
• Natur Tort
• Esgeulustod Tort
• Atebolrwydd deiliaid
• Unioni a chyfrifo iawndaliadau

Mae dwy uned ychwanegol yn yr ail flwyddyn:

Ymarfer Cyfraith Hawliau
• Rheolau a damcaniaethau Hawliau Dynol
• Hawliau megis rhyddid mynegiant, hawl I breifatrwydd, cynulliad a phrotestio
• Cyfyngiadau ar Hawliau Dynol
• Pwerau'r heddlu
• Dadl yn ymwneud â diogelu hawliau dynol yn y DU

Persbectifau Cyfraith Hawliau
• Diffiniad o drosedd
• Atebolrwydd llym a ffactorau a allai wrthod atebolrwydd troseddol
• Tramgwyddau yn erbyn person
• Tramgwyddau Eiddo
• Amddiffynfeydd
• Ymgeisiadau
Caiff nifer o asesiadau gwahanol eu defnyddio trwy gydol y cyfnod astudio a byddwn yn cynnal ffug arholiadau mewnol ar gyfer myfyrwyr lefel UG a Safon Uwch ym mis Ionawr. Mae’r arholiadau’n cynnwys cwestiynau i’w hateb ar ffurf traethawd, ymateb i symbyliad ac astudiaethau achos.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Ni anelwyd y cwrs hwn yn unig at y myfyrwyr hynny sy’n dymuno cymhwyso fel cyfreithwyr yn y pen draw. Mae’n brofiad dysgu ynddo’i hun oherwydd ei fod yn meithrin y gallu i ddadansoddi materion a llunio dadleuon rhesymegol. Mae’r Gyfraith Safon Uwch yn cael ei barchu’n fawr gan y sefydliadau sy’n cynnig addysg uwch.

Mae myfyrwyr wedi symud ymlaen i yrfaoedd rhyfeddol o amrywiol: rheoli, masnach, llywodraeth leol, gwaith cymdeithasol, yn ogystal ag amrywiaeth o swyddi sy’n amlwg yn canolbwyntio mwy ar agweddau cyfreithiol fel yr heddlu, gweithredwyr cyfreithiol a’r proffesiwn cyfreithiol.
Efallai bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?