main logo

Technoleg Ddigidol - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA16217
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio. Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael eiu addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs yn annog ymgeiswyr i feithrin:
• y gallu i feddwl yn greadigol, yn ddyfeisgar, yn ddadansoddol, yn rhesymegol ac yn feirniadol;
• sgiliau cydweithio;
• y gallu i gymhwyso sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o TGCh mewn nifer o gyd-destunau gwahanol i ddatrys problemau;
• dealltwriaeth o oblygiadau defnyddio TGCh ar unigolion, sefydliadau a chymdeithas s deall ystyriaethau cymdeithasol, cyfreithiol, moesegol ac ati o ran defnyddio TGCh;
• ymwybyddiaeth o dechnolegau newydd a gwerthfawrogiad o effaith bosibl y rhain ar unigolion, cyrff a chymdeithas.

Blwyddyn 1: Mae Unedau 1 a 2 yn ymwneud â chymhwyso TGCh i ddatrys problemau ac astudio cyfleoedd i ddefnyddio TGCh yn y byd cyfoes ac effeithiau hynny. Bydd ymgeiswyr yn cael cyfle i weithio gydag ystod eang o feddalwedd a chaledwedd i lunio atebion i broblemau’n gysylltiedig â busnes.

Blwyddyn 2: Mae unedau 3 a 4 yn galluogi ymgeiswyr I astudio’r cysyniadau sy’n gysylltiedig â defnyddio TGCh yn yr unfed ganrif ar hugain. Byddant yn cael cyfle hefyd I feithrin y sgiliau y bydd eu hangen arnynt yn y proffesiwn TG, fel cydweithio a rheoli prosiectau. Byddant yn gallu meithrin y sgiliau ymarferol hyn mewn meysydd TGCh sydd o ddiddordeb iddynt. Bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio’r sgiliau newydd eu meithrin hyn fel llwybr at gymwysterau eraill ac amgylchfyd byd gwaith.

Mae’r gallu I ddefnyddio rhaglenni Microsoft fel Publisher, Word, Excel, PowerPoint ac Access ar eich cyfrifiadur gartref yn ddymunol (ond nid yn hanfodol)
Bydd Unedau 1 a 3 yn cael eu hasesu’n allanol trwy bapurau ysgrifenedig gan amodau arholiad. Bydd Uned 2 a 4 yn cael eu hasesu gan y ganolfan a’u safoni’n allanol gan CBAC.
Bydd rhaid i ymgeiswyr lunio adroddiad yn seiliedig ar eu hymchwiliad / gwaith ymarferol.
Cynhelir arholiadau ffug mewnol i roi ymarfer gwirioneddol o amgylchiadau arholiad.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys iaith Saesneg/ Cymraeg iaith gyntaf a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Gyda’r cymhwyster bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen i addysg uwch neu i weithio mewn un o nifer o feysydd galwedigaethol sy’n datblygu.
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.Gweler y rhestr offer atodedig I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?