main logo

Sbaeneg - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00061
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae pwyslais trwm ar sgiliau llafar a gwrando ym mhob gwers, ac mae digon o gyfleoedd i fyfyrwyr weithio mewn parau, grwpiau bychain, gyda’r cymhorthydd Sbaeneg, a defnyddio’r rhyngrwyd. Mae sgiliau ysgrifenedig yn cael eu meithrin yn systematig trwy gydol y cwrs, yn ogystal â’r gallu i ymdopi â’r ffurfiau llafar ac ysgrifenedig yr iaith mewn ystod o gyd-destunau.
Bydd asesiad llafar ac un arholiad ysgrifenedig ar gyfer UG, gan gynnwys tasgau gwrando a darllen a thraethawd ar ffilm Sbaeneg.

Mae’r pynciau sy’n cael eu hastudio ar gyfer y cynnwys UG yn cynnwys y teulu, ffasiynau ieuenctid, cyfleoedd addysgol a chyflogaeth, diwylliant gwledydd Sbaeneg eu hiaith yn ogystal â’u celf, cerddoriaeth, llenyddiaeth a ffilm. Byddwn yn astudio un ffilm yn fanwl.

Gall ymgeiswyr sy’n llwyddiannus yn y modiwlau hyn barhau I Safon Uwch trwy ddilyn tri modiwl arall.

Mae’r adran yn defnyddio ffug arholiadau pwysig fel ffordd o baratoi myfyrwyr ar gyfer asesiad allanol.
TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (iaith gyntaf) a Mathemateg, a bodloni’r meini prawf canlynol:

-Gradd C/4 mewn TGAU Sbaeneg.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae Ieithoedd Tramor Modern, fel Sbaeneg, yn cael eu hadnabod fel cyrsiau “Safon Uwch cynorthwyol”. Hynny yw, mae prifysgolion yn gweld gwerth mawr iddynt, gan gynnwys prifysgolion grŵp Russell.

Mae pwysigrwydd astudio ieithoedd modern yn amlwg, beth bynnag fo’ch dyheadau gyrfa. Mae ieithoedd yn cyfuno gydag unrhyw bwnc, gan fod mwy o sefydliadau A.U. yn cynnig rhagor o gyfleoedd i barhau i astudio ieithoedd tramor. Mae gofyn am ddychymyg, hunanddisgyblaeth a’r gallu i gyfathrebu ar fyfyrwyr i astudio ieithoedd tramor. Mae’r rhain yn rhinweddau hynod ddymunol ar gyfer darpar-gyflogwyr. Mae myfyrwyr ieithoedd yn cael eu cyflogi mewn nifer cynyddol o yrfaoedd, ac yn y maes busnes yn enwedig. Mae hyn yn wir ar gyfer Sbaeneg oherwydd bod ei bwysigrwydd yn fyd-eang yn cynyddu.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?