main logo

Ffrangeg - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA01147
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio ar gyfer myfyrwyr â diddordeb a brwdfrydedd tuag at ddysgu iaith.

Mae’r cwrs Uwch Gyfrannol / Safon Uwch yn darparu llwybr cynnydd naturiol i fyfyrwyr a astudiodd yr iaith ar lefel TGAU. Bydd y pedwar sgil – gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu – yn cael eu datblygu ymhellach ac yn caniatáu i fyfyrwyr ddeall Ffrangeg yn ddyfnach.

Bydd y myfyrwyr yn derbyn y cymorth a’r anogaeth sydd eu hangen arnynt i ddod yn gyfathrebwyr hyderus ac effeithiol a chymryd eu lle fel aelodau’n cymdeithas fyd-eang amlieithog. Yn ogystal ag astudio amrediad o bynciau cyfredol, bydd y myfyrwyr yn cael cyfle hefyd i edrych ar fyd sinema a llenyddiaeth Ffrangeg.

Rydym yn darparu adnoddau rhagorol i’n myfyrwyr sy’n cyfoethogi eu profiad dysgu.

Rydym yn annog ein myfyrwyr i ymweld â Ffrainc a chael profiad uniongyrchol o ddiwylliant a ffordd o fyw’r wlad. Rydym yn cynnig cyfleoedd teithio i’n myfyrwyr a byddant yn cael eu cynghori hefyd ynghylch cyfleoedd i deithio i Ffrainc yn annibynnol, ar brofiad gwaith neu gyrsiau astudio dramor. Rydym yn awyddus i ddarparu’r cyfle i’n myfyrwyr roi eu sgiliau iaith ar waith yn ymarferol tra yma yn y coleg hefyd. Bydd grwpiau bychain yn gweithio bob wythnos gyda chymhorthydd ieithoedd tramor, yn ogystal â chael llu o gyfleoedd i drafod a sgwrsio yn eu gwersi.
Mae sgiliau siarad myfyrwyr yn cael eu hasesu ar lefel Uwch Gyfrannol, ac maent yn sefyll un papur ysgrifenedig sy’n cwmpasu Gwrando, Darllen, Cyfieithu ac Ymateb Beirniadol yn ysgrifenedig.

Mae sgiliau siarad myfyrwyr yn cael eu hasesu ar Lefel Uwch ac maent yn sefyll dau arholiad ysgrifenedig arall, sy’n cwmpasu Gwrando, Darllen a Chyfieithu yn ogystal ag ymateb beirniadol a dadansoddiadol yn ysgrifenedig.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg, yn ogystal â bodloni’r meini prawf canlynol:

– Gradd C/4 mewn TGAU Ffrangeg.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae Ieithoedd Tramor Modern fel Ffrangeg yn cael eu hadnabod fel cymwysterau Safon Uwch “hwyluso”. Ystyr hynny yw eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan bob prifysgol, yn cynnwys y prifysgolion blaenaf sy’n aelodau’r Grŵp Russell.

Gall y cwrs hwn fod yn garreg camu arwyddocaol i astudio pellach neu gyflogaeth. Yn naturiol, mae cymhwysedd mewn iaith dramor yn darparu cymaint o gyfleoedd gyrfa ac nid oes unrhyw gyfyngiadau; mae prinder cenedlaethol sylweddol o siaradwyr Ffrangeg. Dyma rai enghreifftiau lle y defnyddir ieithoedd yn y gwaith: Busnes a Manwerthu, y Gwasanaeth Diplomataidd, Rheoli Trychineb, Peirianneg, Ffilm a Theledu, Technoleg Gwybodaeth a Chyfrifiadura, Cyfieithu, Newyddiaduraeth, y Gyfraith, Marchnata, y Cyfryngau ac Adloniaeth, Meddygaeth, Hyfforddwr Gweithgareddau Awyr Agored, Cymhorthydd Personol, Peilot, campwr proffesiynol, addysgu, addysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill, Teithio a Thwristiaeth ac Au Pair.
Efallai y bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr offer i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?