main logo

Astudiaethau Cyfryngau Safon Uwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA09146
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Blwyddyn 1 – Safon UG
Blwyddyn 1 – Safon Uwch
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Uned 1: Ymchwilio i’r Cyfryngau
Yn yr uned hon, bydd dysgwyr yn astudio tri phwnc, datblygu gwybodaeth a deall cysyniadau allweddol astudiaethau’r cyfryngau - iaith y cyfryngau, cynrychioliadau, diwydiannau a chynulleidfaoedd y cyfryngau - a’u defnyddio nhw fel fframwaith ar gyfer dadansoddi’r cyfryngau.

Mae’r meysydd byddwch chi’n eu hastudio’n cynnwys:
● Delweddau Gwerthu - Hysbysebu a Fideos Cerddoriaeth
● Newyddion yn yr Oes Ar-lein
● Diwydiannau Ffilm - O Gymru i Hollywood.

Bydd dysgwyr yn ymchwilio i’r meysydd hyn trwy ddadansoddi a chymharu amrediad o gynhyrchion y cyfryngau’n fanwl, gan ystyried agweddau megis eu defnydd o iaith y cyfryngau, nodweddion genre a naratif a’r cynrychioliadau maen nhw’n eu cynnig. Bydd dysgwyr yn astudio rôl diwydiannau’r cyfryngau mewn siapio cynnyrch y cyfryngau, yn ogystal ag ystyried y modd y mae cynulleidfaoedd yn cael eu targedu a sut maen nhw’n dehongli’r cyfryngau.

Uned 2: Creu Cynhyrchiad Cyfryngol
Ar gyfer yr uned hon mae angen i ddysgwyr ddatblygu a defnyddio eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth am gysyniadau’r cyfryngau i gynhyrchu cynnyrch ymarferol.

Bydd dysgwyr yn cwblhau’r isod:
● Ymchwil a chynllunio
● Cynhyrchu
● Dadansoddiad adfyfyriol ar sut mae’r cynrychioliadau wedi’u llunio a sut mae confensiynau yn cael eu defnyddio i dargedu’r gynulleidfa benodol.

Uned 3: Y Cyfryngau yn yr Oes Fyd-eang
Yn yr uned hon mae angen i ddysgwyr astudio amrediad o ffurfiau cyfryngol gwrthgyferbyniol yn fanwl, gan ymchwilio i’r holl gysyniadau allweddol – iaith y cyfryngau, cynrychioliadau, diwydiannau’r cyfryngau a chynulleidfaoedd.

Mae’r meysydd byddwch chi’n eu hastudio’n cynnwys:
● Teledu yn yr Oes Fyd-eang
● Cylchgronau: Cyfryngau Prif Ffrwd a Chyfryngau Amgen
● Y Cyfryngau yn yr Oes Ddigidol - Gemau Fideo

Bydd dysgwyr yn ymchwilio’r meysydd hyn trwy ddadansoddi a chymharu cynhyrchion y cyfryngau’n fanwl, gan ystyried sut mae cynrychioliadau grwpiau cymdeithasol a diwylliannol wedi’u llunio trwy iaith y cyfryngau. Mae cyd-destun yn rhan bwysig o’r rhan hon o’r astudiaeth hefyd. Bydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o sut mae cyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol, hanesyddol a diwydiannol perthnasol yn siapio cynnyrch y cyfryngau.

Uned 4: Creu Cynhyrchiad Traws-gyfryngol
Mae’r uned hon yn adeiladu ar y dysgu blaenorol trwy ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr ddatblygu a defnyddio eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth am y cyfryngau trwy gynhyrchiad traws-gyfryngol ymarferol. Yn yr Uned Safon Uwch hon bydd pwyslais datblygu’r cynhyrchiad ar waith ymchwil trwyadl.

Bydd dysgwyr yn cwblhau’r isod:
● Gwaith ymchwil manwl
● Amlinelliad datblygiad, yn dangos sut y bydd y gwaith ymchwil yn dylanwadu ar eu cynhyrchiad
● Dadansoddiad beirniadol o sut y cafodd cysyniad cyfryngol allweddol sydd wedi cael ei ymchwilio iddo ei gymhwyso yn y
cynhyrchiad.
Uned 1
Arholiad Ysgrifenedig: 2 awr 30 munud
24% o’r cymhwyster Safon Uwch
100 marc

Uned 2
Asesiad di-arholiad: asesir yn fewnol a’i gymedroli’n allanol gan CBAC
16% o’r cymhwyster Safon Uwch
80 marc

Uned 3
Arholiad Ysgrifenedig: 2 awr 30 munud
36% o’r cymhwyster Safon Uwch
90 marc

Uned 4
Asesiad di-arholiad: asesir yn fewnol a’i gymedroli’n allanol gan CBAC
24% o’r cymhwyster Safon Uwch
80 marc
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae’r cwrs hwn yn darparu sylfaen addas ar gyfer astudio Astudiaethau’r Cyfryngau neu faes cysylltiedig trwy ystod o gyrsiau addysg uwch, symud ymlaen i lefel nesaf cymwysterau galwedigaethol neu gyflogaeth.

Gallai’r llwybrau gyrfa gynnwys symud ymlaen i weithio yn un o’r diwydiannau canlynol: Teledu, Ffilm, Radio, Cyhoeddi, Newyddiaduraeth, Ffotograffiaeth, Marchnata, Hysbysebu, Cysylltiadau Cyhoeddus, Dylunio Gemau, Apiau a Gwefannau a llawer o feysydd eraill.
Efallai bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?