main logo

Hanes - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA01209
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

UG: Llywodraeth, Chwyldro a Chymdeithas yng Nghymru a Lloegr c1603 – 1715 (astudiaeth cyfnod).

Mae’r cyfnod hwn yn cwmpasu teyrnasiad y Stiwartiaid – bydd myfyrwyr yn astudio Iago I a’I reolaeth a’r materion o ran Brad y Powdwr Gwn 1605. Bydd astudio Siarl I yn nodi pam bod y Rhyfel Cartref wedi dechrau yn Lloegr yn 1642. Yna bydd myfyrwyr yn dadansoddi dienyddiad Siarl I a diddymu’r Frenhiniaeth, rheolaeth Cromwell ac adfer y Frenhiniaeth.

UG: Weimar, Yr Almaen, c1918-1933 (astudiaeth fanwl)

Edrychir ar elfennau arferol Weimar – cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol - a byddwn yn cwmpasu cyfnodau cyfarwydd, 1918-1923, 1924-1929 a 1929 I 1933. Bydd y dadansoddiad yn canolbwyntio ar ba mor llwyddiannus y bu llywodraethau Weimar wrth geisio sefydlogi’r economi a gwleidyddiaeth. Yn gysylltiedig ag astudio hynt Weimar bydd ymchwiliad I gynnydd poblogrwydd Hitler a’r Blaid Natsïaidd. Bydd hyn yn edrych ar arweinyddiaeth, ideoleg Natsïaeth, trefniadaeth y blaid, propaganda, yr SA a’r SS a natur yr etholwyr.

Safon Uwch

Mae’r cwrs Safon Uwch yn cynnwys: astudiaeth cyfnod, UDA 1890 I 1990 yn edrych ar Hawliau Sifil a sut y daeth yr Unol Daleithiau’n Uwch Bŵer.
Astudiaeth fanwl y Drydedd Reich, 1933-1945.
Bydd yr elfen derfynol, y gwaith cwrs, yn ddarn o waith ysgrifennu estynedig 3,000 – 4,000 o eiriau.
Bydd yr astudiaeth cyfnod UG yn cael ei asesu trwy ddewis o gwestiynau strwythuredig, tra bydd cwestiynau wedi’u seilio ar dystiolaeth yn gysylltiedig â’r astudiaeth fanwl.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a bodloni’r meini prawf canlynol:

– Gradd B/6 neu uwch mewn TGAU Saesneg Iaith / Cymraeg iaith gyntaf
– Gradd C/4 neu uwch mewn TGAU Hanes

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae Hanes yn darparu ystod o sgiliau i fyfyrwyr, yn cynnwys dadansoddi a gwerthuso, sy’n ofynnol mewn nifer o yrfaoedd, er enghraifft, y gwasanaeth sifil, y gyfraith neu reoli. Mae gyrfaoedd eraill a all fod yn fwy cysylltiedig â hanes yn cynnwys archifydd, curadur amgueddfa, swyddi treftadaeth, athrawon neu ddarlithwyr.
Efallai y bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr offer I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?