main logo

Llenyddiaeth Saesneg - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA01210
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dysgir y cynnwys UG yn y flwyddyn astudio gyntaf.
Dysgir y cynnwys U2 yn yr ail flwyddyn astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae astudio Llenyddiaeth Safon Uwch yn cynyddu dealltwriaeth ynghylch sut mae ystyr yn cael ei greu mewn testunau llenyddol ac yn datblygu’r gallu i ymateb i destunau llenyddol trwy drafodaethau a gwaith ysgrifenedig. Mae’r cwrs yn gweddu i fyfyrwyr sy’n mwynhau darllen ystod eang o destunau llenyddol.

Bydd myfyrwyr yn astudio barddoniaeth, rhyddiaith a drama o wahanol gyfnodau. Bydd elfen o ddarllen ehangach a bydd myfyrwyr yn caffael gwybodaeth soffistigedig am eirfa dechnegol llenyddiaeth. Disgwylir i fyfyrwyr archwilio dehongliadau lluosog testunau a sicrhau dealltwriaeth o gyd-destunau perthnasol y testunau hynny.

Uwch Gyfrannol
Uned 1 Arholiad (20%) – Rhyddiaith a Drama:
Adran A: Ffuglen cyn 1900 Jane Eyre
Adran B: Drama Doctor Faustus (Testun B)

Uned 2 Arholiad (20%) – Barddoniaeth: Phillip Larkin a Carol Ann Duffy
Adran A: Archwiliad beirniadol barddoniaeth
Adran B: Cymharu barddoniaeth

Safon Uwch
Uned 3 Arholiad (20%) – Barddoniaeth cyn 1900 a barddoniaeth heb ei weld o’r blaen, The Merchant’s Tale - Chaucer
Uned 4 Arholiad (20%) - Shakespeare - Antony and Cleopatra
Uned 5 Gwaith Cwrs ( 20%) – Astudiaeth Rhyddiaith (cymharu dwy nofel)
Cynhelir ffug arholiad ac asesiadau rheolaidd trwy gydol y cwrs.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Bydd Llenyddiaeth Saesneg yn eich paratoi’n rhagorol ar gyfer llawer o gyrsiau yn y Dyniaethau yn y brifysgol, yn cynnwys Llenyddiaeth, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ar y cyd, Ieitheg, Newyddiaduraeth, y Gyfraith ac Addysg.

Mae cymhwyster Safon Uwch mewn Llenyddiaeth yn rhinwedd rhagorol ar gyfer unrhyw fath o yrfa lle mae angen i chi gyfleu eich hun yn effeithiol a meddwl yn ddadansol. Os ydych chi’n meddwl am y Prifysgolion Grŵp Russell mae Llenyddiaeth Saesneg yn un o’r pynciau Safon Uwch a wnaiff hwyluso a chynorthwyo darpar ymgeiswyr i ennill lle yn y prifysgolion hyn.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?