main logo

Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd) - Safon Uwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA09149
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Addysgir y cymhwyster Uwch Gyfrannol ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Addysgir y cymhwyster Safon Uwch yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

NNod y cwrs hwn yw datblygu dealltwriaeth a gwybodaeth o Athroniaeth a Chrefydd, credoau Crefyddol a dysgeidiaeth o Gristnogaeth a Chrefydd a Moeseg. Bwriad y cwrs yw datblygu sgiliau academaidd a chyfathrebu a sgiliau gwerthusiad beirniadol sy’n hanfodol ar gyfer astudio yn y brifysgol a’r farchnad swyddi ehangach.

Uwch Gyfrannol (40%)
Uned 1 - Cyflwyniad i Gristnogaeth: astudiaeth o ffigyrau crefyddol a thestunau cysegredig, cysyniadau crefyddol, bywyd crefyddol ac arferion crefyddol.

Uned 2 -
Adran A - Cyflwyniad i Athroniaeth Crefydd: astudiaeth o ddadleuon am fodolaeth Duw, problem drygioni a phrofiad crefyddol.
Adran B - Crefydd a Moeseg: astudiaeth o feddylfryd a theorïau moesegol sy’n berthnasol i faterion fel erthyliad, arbrofi ar anifeiliaid a pherthnasoedd cyfunrywiol, ymysg materion eraill.

A2 (60%)
Uned 3 - Astudiaeth Cristnogaeth: astudiaeth fanylach o ffigyrau a thestunau cysegredig, astudiaeth o ddatblygiadau hanesyddol arwyddocaol mewn meddylfryd crefyddol a datblygiad cymdeithasol arwyddocaol mewn syniadau ac arferion crefyddol a siapio hunaniaeth grefyddol.

Uned 4 - Crefydd a Moeseg: Astudiaeth o iaith a meddylfryd moesegol gan ymchwilio I ddatblygiad theorïau fel Cyfranoliaeth a datblygiadau cyfoes mewn theori foesegol a dadleuon yn cymharu ewyllys rhydd a phenderfyniaeth.

Uned 5 - Athroniaeth Crefydd: Astudiaeth o’r newidiadau I gredoau crefyddol - fel Anffyddiaeth Newydd a datblygiadau ym myd Seicoleg I egluro crefydd, rhagor o ddatblygiadau profiad crefyddol ac archwilio’r problemau gydag iaith grefyddol.
Bydd dulliau asesu mewnol yn cynnwys gwaith ymchwil, profion/cwisiau a chwestiynau arholiad. Bydd ffug arholiadau yn rhan allweddol o’r asesiadau mewnol.

Mae’r asesu allanol yn seiliedig ar arholiadau (dim gwaith cwrs), gydag arholiadau UG ym mis Mai yn y flwyddyn gyntaf, ac arholiadau A2 ym mis Mehefin yn yr ail flwyddyn. Mae’r arholiadau’n cynnwys traethodau strwythuredig sy’n cynnwys gwybodaeth a’r gallu i ddadansoddi’r deunydd a astudiwyd.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae Astudiaethau Crefyddol yn rhoi’r sgiliau i fyfyrwyr y byddant eu hangen i ymchwilio, gwerthuso, strwythuro a chyflwyno gwybodaeth a syniadau. Mae sgiliau ysgrifennu aseiniadau yn cael eu meithrin gyda phwyslais cadarn ar ddadansoddi a meddwl yn feirniadol. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i drin a thrafod er mwyn datblygu eu sgiliau cyfathrebu. Mae’r rhain yn sgiliau sy’n gyffredin i nifer o gyrsiau gradd yn y brifysgol. Mae datblygiad y sgiliau hyn wedi’u paru â natur eang y pwnc, sy’n cwmpasu gwybodaeth o feysydd athroniaeth, moeseg, hanes, diwylliant a chrefydd yn golygu fod myfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudio ystod o bynciau ar lefel gradd. Mae’r sgiliau a’r wybodaeth eang hefyd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd yn y gymdeithas fel y Gyfraith, Addysg, Sefydliadau Anllywodraethol a swyddi’r Llywodraeth.
Gall fod yn ofynnol prynu offer a/neu wisg benodol ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr offer i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?