CERDDORIAETH A CHELFYDDYDAU PERFFORMIO

Os ydych yn breuddwydio am gael eich gweld a’ch clywed, boed hynny ar lwyfan neu sgrin, yna Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio yw’r cwrs i chi. Fel myfyriwr Cerddoriaeth, byddwch yn dysgu popeth sydd angen ei wybod i fod yn gerddor gwych, gan gynnwys cerddoriaeth a pherfformio cerddorol, cyfansoddi caneuon, sgiliau ensemble cerddorol, theori cerddoriaeth, trefnu a chynhyrchu.

Fel myfyriwr Celfyddydau Perfformio, mae angen cymhelliant arnoch, rhaid i chi fod yn benderfynol a chredu ynoch chi’ch hun i lwyddo. Os oes gennych chi hyn, bydd ein tiwtoriaid yn siŵr o ddatblygu eich sgiliau actio, dawnsio a theatr gerddorol, gan gynyddu eich dealltwriaeth o’r diwydiant. Erbyn i chi orffen y cwrs mi fyddwch chi’n seren.

Thomas Hughes Lloyd IMG_0009

Thomas Hughes Lloyd

Wedi astudio – Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Celfyddydau Perfformio

Erbyn hyn – Astudio Dawns ym Mrifysgol Caer

“Gwnes i ddewis astudio Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Cambria oherwydd roeddwn i eisiau dysgu ystod o sgiliau fel actio, canu, theatr gerddorol a ffurfiau eraill o ddawns.

“Wrth astudio gwnes i ddarganfod fy mod i’n mwynhau dulliau eraill o berfformio, nid dim ond dawns. Gwnaeth y gwaith theatr cerddorol fy helpu i ddysgu sgiliau eraill a ffurfiau eraill o berfformio. 

“Mae’r cymhwyster hwn wedi fy helpu i adeiladu fy hyder a dysgu ffyrdd newydd o berfformio, mae wedi fy helpu i feithrin sgiliau newydd a mireinio’r rhai presennol. Dwi hyd yn oed wedi addysgu gweithdai yn Cambria a dwi dal mewn cyswllt gyda fy nghyd-fyfyrwyr a’n darlithwyr hyd heddiw. Mae wedi fy helpu i weld lle mae posibiliadau newydd ac wedi rhoi blas o feysydd eraill yn y diwydiant. Yn ddiweddar dwi wedi gwneud gwaith teledu ar BBC Young Dancer a Got to Dance ar Sky 1 a gwaith arall yn dysgu dosbarthiadau a gweithdai dawns. 

“Roeddwn i wrth fy modd yn y coleg, buasai’n wych cael mynd yn ôl mewn amser a chael bod yno eto, cefais i gymaint o hwyl ac roedd yn un o’r cyfnodau gorau yn fy mywyd.”

Dangos Mwy
frankie - Yale 6 (1)

Frankie McCamley

Studied – A Level English, Drama, Maths and French

Currently – Presenter and News Correspondent for the BBC 

“I wasn’t sure what I wanted to do in the future, so I chose a range of different subjects to study at A Level. I’m now employed by the BBC as a Presenter and News Correspondent and studying at Yale Sixth gave me the confidence and skills to go onto university. I made some amazing friends, had some great teachers who I’ll never forget and had a great time in Wrexham! 

“I look back on my time at Yale with pride and fondness and will never forget it!”

Show more
Play Video
Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho

A oes gennych chi gwestiwn?

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous
Next
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy
08/03/2023

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Llysfasi
11/03/2023

10:00

Digwyddiad Agored Llysfasi wedi’i aildrefnu ar gyfer dydd Sadwrn 18 Mawrth

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost