Home > Coleg 16-18 > Gweld Pob Maes Pwnc > Celf a Dylunio
Celf a Dylunio
Celf a Dylunio
Os ydych chi’n angerddol am droi eich syniadau’n gelf ac yn gallu gweld eich hun yn gweithio yn y diwydiant creadigol sy’n cynyddu’n gyflym, yna Celf a Dylunio yw’r cwrs i chi. Bydd ein cyrsiau ysbrydoledig yn rhoi’r cyfle i chi archwilio ystod o ddisgyblaethau gwahanol, a addysgir gan diwtoriaid cymwys iawn ac sydd wedi ennill gwobrau.
Dangoswch eich dawn greadigol yng Ngholeg Cambria, gan ddefnyddio ein cyfleusterau celf a dylunio arbenigol fel stiwdio ffotograffig, stiwdio ffasiwn a thecstilau, gweithdy gwaith print, Ystafelloedd Mac a gweithdy 3D, sydd wedi’u dylunio’n arbennig i fodloni eich holl anghenion artistig.
Pa Gyrsiau Sydd Ar GaelMynediad i Gelf
- 05/09/2024
- Iâl
Cwrs Diweddaru Cyflwyniad i'r Ganolfan Argraffu
- 07/01/2025
- Iâl
Cynhadledd Argraffu'r Ganolfan Argraffu 2025
- 26/02/2025
- Iâl
Diploma Lefel 1 UAL mewn Celf: Dylunio a'r Cyfryngau
- 05/09/2024
- Iâl
Lefel 2 UAL Diploma mewn Celf a Dylunio
- 05/09/2024
- Iâl
Diploma Lefel 3/4 mewn Astudiaethau Sylfaen Celf a Dylunio (Cyn Gradd)
- 05/09/2024
- Iâl
Lefel 3 UAL Diploma mewn Celf a Dylunio
- 05/09/2024
- Iâl
Mynediad i Gelf
- 05/09/2024
- Iâl
Cwrs Diweddaru Cyflwyniad i'r Ganolfan Argraffu
- 07/01/2025
- Iâl
Cynhadledd Argraffu'r Ganolfan Argraffu 2025
- 26/02/2025
- Iâl
Diploma Lefel 1 UAL mewn Celf: Dylunio a'r Cyfryngau
- 05/09/2024
- Iâl
Lefel 2 UAL Diploma mewn Celf a Dylunio
- 05/09/2024
- Iâl
Diploma Lefel 3/4 mewn Astudiaethau Sylfaen Celf a Dylunio (Cyn Gradd)
- 05/09/2024
- Iâl
Lefel 3 UAL Diploma mewn Celf a Dylunio
- 05/09/2024
- Iâl
Szymon Lewandowski
Wedi astudio – Lefel 3/4 mewn Astudiaethau Sylfaen Celf a Dylunio
Erbyn hyn- Astudio paentio Celfyddyd Gain yn Llundain yn UAL Camberwell
“Fe wnes i ddewis astudio’r cwrs Sylfaen gan ei fod yn gam nesaf i mi yn fy nhaith greadigol. Roeddwn i’n gwybod y byddai’n addysgu sgiliau buddiol i mi lle galla’ i’w defnyddio yn fy mhroses creadigol a fy mharatoi i’n dda ar gyfer y brifysgol.
“Heb y cwrs Sylfaen a chefnogaeth anhygoel y tiwtoriaid yno, fyddwn i ddim lle rydw i rŵan. Fe wnaeth yr holl wybodaeth a dysgeidiaeth o’r cwrs yma roi mantais i mi yn ystod fy amser yn fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol a fy mharatoi i’n dda ar ei gyfer gyda chyngor ystyriol a chefnogol ar gyfer y dyfodol.
“Mae’r gallu y gwnes i ennill o’r cwrs yma nid yn unig yn cael ei ddefnyddio yn fy ymarfer creadigol, ond dwi’n gallu ei ddefnyddio hefyd mewn gwahanol feysydd o fywyd sy’n fanteisiol iawn.
“Os ydych chi’n ystyried astudio Celf dwi’n argymell y cwrs Sylfaen yn fawr. Bydd y cysylltiadau rydych chi’n eu meithrin gyda’ch cyd-ddisgyblion, y profiadau a gewch chi a’r atgofion a wnewch chi, yn para am oes!”
Frankie McCamley
Wedi astudio – Saesneg, Drama, Mathemateg a Ffrangeg Safon Uwch
Erbyn Hyn – Cyflwynydd a Gohebydd Newyddion y BBC
“Doeddwn i ddim yn siŵr beth roeddwn i eisiau ei wneud yn y dyfodol, felly fe wnes i ddewis amrywiaeth o bynciau gwahanol i’w hastudio ar gyfer Safon Uwch. Erbyn hyn dwi’n cael fy nghyflogi gan y BBC fel Cyflwynydd a Gohebydd Newyddion ac fe wnaeth astudio yn Chweched Iâl roi’r hyder a’r sgiliau i mi fynd ymlaen i’r brifysgol. Gwnes i ffrindiau anhygoel, ces i athrawon gwych na fydda’ i byth yn eu hanghofio a ches i amser gwych yn Wrecsam!
“Dwi’n edrych yn ôl ar fy amser yn Iâl gyda balchder a hoffter ac fydda’ i byth yn ei anghofio!”