main logo

Lefel 3 UAL Diploma mewn Celf a Dylunio

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00165
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd llawn amser.
Adran
Celf a Dylunio
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Gellir cymryd y Diploma Lefel 3 fel Diploma un flwyddyn neu fel Diploma Estynedig dwy flynedd llawn amser. Cynlluniwyd Celf a Dylunio Lefel 3 i’ch darparu gyda’r sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sydd eu hangen i symud ymlaen i astudiaeth lefel gradd mewn celf a dylunio. Mae’n rhoi cyfle i bobl sydd â diddordeb yn y celfyddydau gweledol i archwilio, datblygu a phrofi eu creadigrwydd o fewn strwythur cymhwyster sydd yn ysgogol a heriol ac yn cefnogi pontio o addysg bellach i addysg uwch.

Nodweddir y Diploma a’r Diploma Estynedig mewn Celf a Dylunio gan ddysg profiadol, arbrofol ac integredig. Mae’r ddau gymhwyster yn canolbwyntio ar gymhwyso sgiliau ymarferol ac yn cydnabod egwyddorion cyffredin a nodweddion neilltuol disgyblaethau celf a dylunio gwahanol.

Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol, dealltwriaeth ddamcaniaethol ac, yn sgil proses o ailadrodd ac atgyfnerthu, yn datblygu arferion gwaith a fydd yn cefnogi creadigrwydd mewn ystod o weithgareddau ysgogol a chynyddol heriol. Byddwch yn datblygu sgiliau mewn ystod o weithgareddau er mwyn eich galluogi i gyflawni. Byddwch yn cael profiad o weithio mewn 2D a 3D, megis lluniadau o arsylwadau, peintio, Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD), ffotograffiaeth, gwneud printiau cherameg. Ceir cyfleoedd i weithio gydag artistiaid, dylunwyr a chrefftwyr gweithredol. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol ac ymweliadau addysgol i gefnogi eich astudiaethau.


Mae eich rhaglen ddysg yn cynnwys nifer o gymwysterau gan gynnwys Bagloriaeth Cymru.
Mae Coleg Cambria yn ymroddedig i’ch cefnogi i symud ymlaen i gyflogaeth neu Addysg Uwch. Gan hynny, mae pob cwrs yng Ngholeg Cambria yn rhoi’r cyfle i ddatblygu Saesneg a Mathemateg Lefel 2 ac yn ddelfrydol at Radd C/4 TGAU os nad ydych eisoes wedi cyflawni hynny yn yr ysgol/coleg. Bydd hyn yn hybu eich rhagolygon yn y farchnad swyddi ac yn eich galluogi I symud ymlaen I Addysg Uwch.

Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn ennill y canlynol UAL Lefel 3 Diploma mewn Celf a Dylunio
Er mwyn cyflawni cymhwyster y Diploma (blwyddyn 1), mae’n rhaid i chi lwyddo i basio naw uned. Mae Uned 8, datblygu prosiect celf a dylunio yn eich galluogi i arddangos yr holl ddysgu sydd wedi digwydd drwy gwblhau’r unedau eraill. Mae graddau’r uned hon yn cynnwys Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth, yn pennu gradd gyffredinol y cymhwyster ac yn cael ei hasesu’n fewnol ac yn allanol.

Er mwyn cyflawni cymhwyster y Diploma Estynedig (blwyddyn 2), rhaid i chi lwyddo i basio 13 uned gan gynnwys unedau 1–9 o’r Diploma yn ogystal ag Unedau 10–13. Mae Uned 13, sef cynnig a gwireddu’r prosiect mawr mewn celf a dylunio, yn eich galluogi i ddangos yr holl ddysgu sydd wedi digwydd drwy gwblhau’r unedau eraill. Mae graddau’r uned hon yn cynnwys Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth ac yn pennu gradd gyffredinol y cymhwyster.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith 1af) a gradd B/5 neu uwch mewn Celf a Dylunio, neu ar gyfer dysgwyr dilyniant cwblhau cymhwyster Diploma L2 mewn Celf a Dylunio yn llwyddiannus.

Bydd pob ymgeisydd hefyd yn ymgymryd â phrosiect mynediad, y mae’n rhaid iddynt ei gwblhau a’I basio.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac o ganlyniad efallai y gallech symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Gwerthfawrogir Diplomâu Lefel 3 gan gyflogwyr ac mewn Addysg Uwch. Mae’r cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gwaith cyflogedig yn y Diwydiannau Creadigol, a cheisiadau prifysgol ar gyrsiau megis Cerameg, Tecstilau, Celfyddyd Gain, Graffeg, Darlunio, Dylunio Cynnyrch, Ffasiwn, Ffilm, Ffotograffiaeth neu Ddylunio Gemau a Gwefannau.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?