main logo

Diploma Lefel 3/4 mewn Astudiaethau Sylfaen Celf a Dylunio (Cyn Gradd)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00168
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs blwyddyn dwys llawn amser.
Adran
Celf a Dylunio
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae cyrsiau Sylfaen Celf a Dylunio yn rhan eiconig o addysg greadigol y Deyrnas Unedig. Mae’n ddefod newid byd creadigol gyda thras yn estyn o Bauhaus i’r arferion cyfoes mwyaf technolegol.

Cwrs Sylfaen yw’r cam cyntaf sylweddol yn y broses o ddod yn artist neu ddylunydd. O ddatblygu iaith bersonol i ddadansoddi potensial eich syniadau, byddwch yn adeiladu sylfeini ar gyfer ffynnu yn y byd celf a dylunio. Byddwch yn cael eich annog i archwilio, arbrofi a chymryd risgiau, sydd i gyd yn estyn eich annibyniaeth feirniadol a’ch galluogi i arddangos dealltwriaeth lawn o’r safonau perthnasol sydd eu hangen i fynd ymlaen i addysg uwch. Byddwch yn dysgu drwy brosiectau, aseiniadau, cyflwyniadau, beirniadaethau grŵp i ddatblygu sgiliau cyfathrebu cadarn, a fydd yn cynorthwyo’r newid o bwnc cyffredinol i gelf arbenigol ac addysg dylunio.

Bydd y cwrs hynod ysgogol hwn yn eich paratoi ar gyfer gofynion addysg lefel gradd. Byddwch yn archwilio ystod eang o brosesau 2D a 3D mewn celf a dylunio fel lluniadu, celfyddyd gain, tecstilau, ffasiwn, graffeg, CAD a ffotograffiaeth, sydd i gyd wedi’u dylunio i’ch helpu i ddewis maes astudio arbenigol. Yn rhan olaf y cwrs, byddwch yn rhan o gynnig, cynllunio, creu ac arddangos prosiect terfynol mawr.

Bydd cyfleoedd i weithio gydag artistiaid, dylunwyr a chrefftwyr wrth eu gwaith. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol ac ymweliadau addysgiadol i gynorthwyo eich astudiaethau.

Bydd eich rhaglen ddysgu yn cynnwys nifer o gymwysterau. Bydd y rhain yn cynnwys Sgiliau Hanfodol a Sgiliau Ehangach, a datblygu sgiliau Llythrennedd a Rhifedd. Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i’ch cynorthwyo wrth i chi fynd ymlaen i waith neu Addysg Uwch. Felly, mae’r holl gyrsiau yng Ngholeg Cambria i ddarparu’r cyfle ar gyfer datblygu Saesneg a Mathemateg at Lefel 2 ac yn ddelfrydol Gradd C/4 TGAU os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes yn yr ysgol/coleg. Bydd hyn yn gwella eich rhagolygon yn y farchnad swyddi a bydwch hefyd yn gallu mynd I Addysg Uwch.
Mae’r Diploma Sylfaen yn gymhwyster Lefel 3 gydag unedau 1-4 ar Lefel 3 ac unedau 5-6 ar Lefel 4. Mae’r pob uned yn orfodol.

Er mwyn cyflawni’r Diploma, mae’n rhaid I chi lwyddo ym mhob un o’r 6 uned. Mae Unedau 5 a 6; cynllunio creu, cyflwyno ac adolygu Prosiect Mawr mewn Celf a Dylunio; yn eich galluogi I ddangos yr holl ddysgu sydd wedi digwydd wrth gwblhau’r unedau eraill.
Mae’r unedau hyn yn cael eu graddio’n naill ai Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth, gan benderfynu gradd gyffredinol y cymhwyster, ac mae’n cael eu hasesu’n fewnol ac yn allanol.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) a gradd B/6 neu uwch mewn unrhyw bwnc sy’n gysylltiedig â Chelf a Dylunio.

Bydd gan fwyafrif y myfyrwyr gymwysterau Safon Uwch (gan gynnwys un mewn pwnc sy’n gysylltiedig â Chelf a Dylunio gradd C neu’n uwch) neu gymhwyster Diploma Celf a Dylunio L3 cyfatebol.

Bydd pob ymgeisydd hefyd yn ymgymryd â phrosiect mynediad, y mae’n rhaid iddyn nhw ei gwblhau a llwyddo ynddo.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o ddewisiadau a fydd gennych chi, a gallai arwain at fynediad ar gwrs lefel uwch.
Mae sefydliadau Addysg Uwch yn rhoi gwerth mawr ar Ddiploms Sylfaen Cyn-radd Lefel 3/4 mewn Celf a Dylunio. Gallwch symud ymlaen i lawer o’r prifysgolion mawr eu bri yn y Deyrnas Unedig, gan astudio cyrsiau Celf, Dylunio a’r Cyfryngau Creadigol fel Serameg, Tecstilau, Celfyddyd Gain, Graffeg, Darlunio, Dylunio Cynnyrch, Ffasiwn, Ffilm, Ffotograffiaeth neu Ddylunio Gemau a Gwefannau.

Mae’r cwrs hwn hefyd yn eich paratoi chi ar gyfer cyflogaeth yn y Diwydiannau Creadigol.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?