main logo

Lefel 2 UAL Diploma mewn Celf a Dylunio

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00443
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Celf a Dylunio
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Diploma Lefel 2 mewn Celf a Dylunio wedi’i lunio i roi’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnoch chi i symud ymlaen i astudiaeth bellach a hyfforddiant mewn ystod o bynciau celf a dylunio megis celf gain, ffotograffiaeth, dylunio graffeg, ffasiwn, tecstilau, dylunio cynnyrch ac eraill. Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd ȃ diddordeb mewn celf a dylunio neu bwnc perthnasol, ac sy’n dymuno archwilio ac ymestyn y diddordeb hwn trwy brofiad dysgu llawn amser a throchol.

Bydd y rhaglen dysgu hon yn darparu cyflwyniad i ystod o weithgareddau sy’n hanfodol i ddatblygu a darparu deilliannau celf a dylunio gan gynnwys ymchwilio, datblygu syniadau, defnyddio sgiliau technegol a gwerthuso.

Mae’n rhoi’r cyfle I chi archwilio’r deunyddiau, y dulliau a’r prosesau sy’n cynorthwyo gweithgareddau celf a dylunio a dechrau meithrin sgiliau technegol cysylltiedig. Bydd yn eich paratoi at astudiaeth bellach ar Lefel 3 a gyrfa mewn Celf a Dylunio.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys nifer o unedau Celf a Dylunio amrywiol a byddwch yn meithrin sgiliau trwy ddilyn gweithgareddau gwahanol a fydd yn eich galluogi I gyflawni. Byddwch yn cael profiad o weithio mewn 2D a 3D, fel arlunio o arsylwi, paentio, tecstilau, CAD, ffotograffiaeth, gwneud printiau a serameg.

Bydd cyfleoedd I weithio gydag artistiaid, dylunwyr a chrefftwyr wrth eu gwaith. Byddwch yn cael cyfleoedd I weithio ȃ phobl broffesiynol wrth eu gwaith. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol gyda chymorth ymweliadau addysgol.

Bydd eich rhaglen ddysgu’n cynnwys nifer o gymwysterau. Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i’ch cynorthwyo I symud ymlaen at waith neu addysg uwch. Felly, bydd pob cwrs yng Ngholeg Cambria yn rhoi cyfle I chi feithrin eich sgiliau Saesneg a Mathemateg hyd at lefel 2 ac yn ddelfrydol hyd at gyflawni Gradd C/4 ar lefel TGAU, oni bai eich bod wedi cyflawni hynny eisoes yn yr ysgol/coleg. Bydd hyn yn gwella eich rhagolygon yn y farchnad swyddi a bydd hefyd yn eich galluogi I symud ymlaen I addysg uwch

Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn ennill y canlynol UAL Lefel 2 Diploma mewn Celf a Dylunio.
Mae’r holl waith asesu drwy waith cwrs a thrwy gwblhau prosiectau a phortffolios.

Cam 1
Mis Medi tan fis Tachwedd
Byddwch yn archwilio I holl feysydd y diwydiannau creadigol drwy gymryd rhan mewn gweithdai amrywiol, byddwch yn dysgu ystod o sgiliau a thechnegau, yn ogystal â sut I ymchwilio’n effeithiol a chyflwyno gwaith mewn portffolios.

Cam 2
Mis Tachwedd tan fis Chwefror
Byddwch yn cwblhau prosiect 2D, prosiect 3D a phrosiect 4D.
Bydd y prosiectau hyn yn eich addysgu sut I gynllunio a chynnal prosiect celf a dylunio llwyddiannus, gan wella eich sgiliau a’ch paratoi ar gyfer y FMP.


Cam 3
Mis Mawrth tan fis Mehefin
Byddwch yn dewis llwybr a chynllun arbenigol (gyda chymorth eich tiwtoriaid) ac yn cwblhau eich prosiect eich hun, gan ddilyn thema benodol. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’ch tiwtor pwnc penodol I ddatblygu eich syniadau. Bydd y prosiect yn cael ei raddio gyda Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth, ac yn rhoi’r radd derfynol I chi. Bydd yn cael ei asesu’n fewnol ac yn allanol.
4 TGAU ar raddau D/3 neu uwch gan gynnwys pwnc cysylltiedig â Chelf a Dylunio ac Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith gyntaf), neu I fyfyrwyr dilyniant gwblhau Lefel 1 Celf, Dylunio a’r Cyfryngau yn llwyddiannus ac argymhelliad gan diwtoriaid y cwrs

Bydd yr holl ymgeiswyr yn ymgymryd â phrosiect mynediad, lle bydd rhaid iddynt ei gwblhau a llwyddo ynddo.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill llear gwrs lefel uwch.
Mae cyflogwyr yn rhoi gwerth ar Ddiplomâu Lefel 2 ac mae’r cwrs yn eich paratoi ar gyfer gweithio yn y Diwydiannau Creadigol. Os ydych chi am symud ymlaen gyda’ch astudiaethau gallwch ddilyn cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc tebyg fel Celf a Dylunio neu’r Cyfryngau Creadigol.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?