Mae cynnyrch becws wedi’i arwain gan fyfyrwyr wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn niwydiant y DU ar ôl cael ei enwi’n un o’r cynhyrchion mwyaf arloesol ar y silffoedd yn 2025

Cafodd y rhestr fawr ei bri ei greu gan British Baker, llwyfan ar-lein a chylchgrawn blaenllaw ar gyfer y sector pobi a melysion. Mae’r anrhydedd yn cydnabod Sleisen Goffi Gwyddelig a gafodd ei ddatblygu trwy gydweithrediad rhwng Coleg Cambria, Bako a Wright’s, rhan o The Compleat Food Group. Mae’r sleisen foethus yn cynnwys sbwng fanila […]
Rydym yn cyhoeddi neges glir i gyflogwyr, dysgwyr a phrentisiaid ledled Gogledd Cymru yn dilyn trafodaeth ddiweddar ynghylch Ardoll Twf a Sgiliau arfaethedig Llywodraeth y DU.

Er gwaethaf penawdau a allai fod wedi peri gofid, mae’r coleg wedi cadarnhau nad oes unrhyw beth wedi newid i Gymru, ac mae’r ddarpariaeth prentisiaethau’n parhau yn union fel o’r blaen. Dywed Rheolwr Ymgysylltu â Chyflogwyr Gari Thomas fod llawer o sefydliadau a phrentisiaid wedi bod yn poeni – yn hollol ddealladwy, am y drafodaeth […]
Wrth i 2025 ddod i ben, rydyn ni’n adfyfyrio ar flwyddyn a oedd yn llawn cyflawniad, gwytnwch ac ymrwymiad parhaus i ddysgwyr, staff a chymunedau ar hyd y rhanbarth

Drwy gydol y flwyddyn, mae’r coleg – sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, Llaneurgain, Glannau Dyfrdwy a Llysfasi – wedi dathlu canlyniadau myfyrwyr cadarn, addysgu a dysgu arloesol, a phartneriaethau ystyrlon â chyflogwyr a sefydliadau cymunedol, gan gynnwys llwyddiant WorldSkills UK a Chynghrair Trydyddol Gogledd Cymru. O brentisiaethau i lwybrau addysg uwch ac ymgysylltu cymunedol, mae […]
Dathlu Lansiad ein Cyrsiau Addysg Uwch Hyblyg ac Arloesol

Mae’r coleg yn parhau i drawsnewid tirwedd addysg uwch gydag estyniad ei fodel HN Flex – dull arloesol, byr a hygyrch i ddysgu wedi’i ddylunio ar gyfer y bobl sydd eisiau astudio o amgylch eu bywydau prysur. Yn dilyn HNC Flex mewn Busnes yn Llaneurgain – a gafodd ei ddatgelu yn gynharach eleni – mae […]
Wythnos Menter Fyd-Eang (GEW): Dathliad Bywiog o Rym Arloesol Cambria ar gyfer Entrepreneuriaeth a Chymorth Busnes

Mae cannoedd o ddysgwyr wedi cymryd rhan mewn gweithdai, sgyrsiau, cystadlaethau a phrofiadau mentergarwch ymarferol sy’n cyd-fynd â’r thema GEW 2025 – Adeiladu gyda’n Gilydd. O Lefel Sylfaen i Lefel 3 mae myfyrwyr yn edrych ar eu siwrnai dechrau busnes yn y byd go iawn, modelau menter gymdeithasol a’r cyfleoedd cynyddol sydd ar gael i […]
Rydyn ni unwaith eto wedi cadarnhau ein lle fel arweinydd mewn addysg fyd-eang

Mae’r coleg wedi cael ei enwi’n un o’r ymgeiswyr terfynol am yr ail flwyddyn yn olynol yng nghategori Gwobr y Cyngor Prydeinig am Ragoriaeth mewn Gwaith Rhyngwladol yng Ngwobrau Beacon AoC (Cymdeithas y Colegau) 2025/26. Wedi’i gyhoeddi yng Nghynhadledd Flynyddol AoC, mae’r gydnabyddiaeth yn tynnu sylw at ymrwymiad Cambria i ddarparu profiadau rhyngwladol ystyrlon sy’n […]
Menter hyfforddiant a chyflogaeth SYLWEDDOL sy’n cefnogi pobl ifanc ledled gogledd-ddwyrain Cymru yn gweld twf cyflym – gyda rhagor o gyflogwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan.

Mae rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yng Ngholeg Cambria wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y 12 mis diwethaf. Dan arweiniad y Cyfarwyddwyr Cwricwlwm David Garratt a Claire Howells, mae’r cynllun wedi gweld cynnydd sylweddol mewn cyfranogiad ac wedi tyfu o 70 o ddysgwyr yn 2024 i fwy na 100 eleni. Mae Twf Swyddi […]
Ymchwil GRAFF yn helpu i drawsnewid y cymorth sy’n cael ei gynnig i fyfyrwyr ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) mewn addysg uwch

Mae Rebecca Mountfield-Pawlett sy’n arweinydd y rhaglen TAR yng Ngholeg Cambria wedi cyhoeddi canfyddiadau sy’n tynnu sylw at yr heriau a’r cryfderau sydd gan fyfyrwyr ag ADHD a sut y gall strategaethau addysgu ymarferol wneud y byd academaidd yn fwy cynhwysol. Mae Rebecca sydd hefyd yn addysgu Astudiaethau Plentyndod mewn partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam ac […]
Datgelu cyfleuster newydd sydd wedi’i ddylunio i roi lle croesawgar a chefnogol i ddysgwyr gwrdd, ymlacio, a chyrchu gwasanaethau allweddol yn ystod eu hastudiaethau.

Mae’r hwb Undeb Myfyrwyr ar safle Iâl Coleg Cambria yn Wrecsam wedi’i anelu at gyfoethogi a hyrwyddo llesiant, cynhwysiant, a datblygiad personol ochr yn ochr ag academia. Wedi’i gefnogi gan Medr, mae’r datblygiad wedi profi’n boblogaidd iawn yn barod gyda dysgwyr ers agor ei ddrysau. Mae’n dod ag ystod eang o wasanaethau cymorth ynghyd o […]
Diddordeb entrepreneur ifanc mewn chwaraeon yn ei helpu i sefydlu menter iechyd a ffitrwydd

Mae Dylan Morris wedi trawsnewid ei syniad o’r ystafell ddosbarth yn gwmni MountForce – brand dillad actif a ffordd o fyw sy’n tyfu’n gyflym ac sydd eisoes yn boblogaidd ledled y DU a thu hwnt. Yn gynharach eleni – wrth astudio cymhwyster Lefel 1 mewn Busnes, Teithio a Digwyddiadau yng Ngholeg Cambria – roedd yn […]