main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

TableTennisPlayers2

Mae’r bartneriaeth strategol rhwng Coleg Cambria a Table Tennis Wales yn canolbwyntio ar ddarparu rhaglen clwb cymunedol cynhwysol a hyfforddiant ymroddedig ar lawr gwlad.

Mae’r academi yn canolbwyntio ar bob un o bump o safleoedd y coleg – Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain, Llysfasi, Iâl a Ffordd y Bers yn Wrecsam – gwnaeth yr academi groesawu dros 800 o bobl ar gyfer hyfforddiant a sesiynau hwyl mewn dim ond pedwar mis.

Gwnaeth Swyddog Datblygu Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru Aaron Beech ymgysylltu gydag ysgolion, clybiau a sefydliadau cymunedol er mwyn ceisio darganfod pencampwr Olympaidd, Cymanwlad neu’r Byd nesaf y wlad.

Dywedodd: “Rydyn ni wedi bod yn brysur iawn dros y misoedd diwethaf ac mae’r adborth wedi bod yn arbennig.

“Fel rhan o’n hwb perfformiad uchel rydyn ni wedi buddsoddi mewn offer newydd – mae gan safle coleg Iâl 12 bwrdd tennis bwrdd – ac ar draws y rhanbarth rydyn ni wedi cyfarfod â phobl o bob oed a’u hyfforddi nhw.

“O fyfyrwyr i blant ac aelodau hŷn y gymuned, mae yna lwythi o bobl ddawnus allan yno, felly rydyn ni’n ceisio eu darganfod nhw a’u helpu nhw i gyflawni eu potensial.”

Ychwanegodd Aaron: “Rydyn ni wedi cael llwythi o gefnogaeth gan chwaraewyr ar lawr gwlad a hyfforddwyr ar hyd a lled Gogledd Cymru hefyd ac rydyn ni mor ddiolchgar iddyn nhw am wirfoddoli eu hamser.”

Yn ystod yr haf, gwnaeth Aaron drefnu sesiynau ‘bwyd a hwyl’ yn Sir Dinbych, Sir Fôn, Wrecsam, a Sir y Fflint, yn ogystal â Threialon Sirol Gogledd Cymru.

Mae bagiau cit wedi cael eu rhannu i ddarpar chwaraewyr mewn cydweithrediad ag Aura (Sir y Fflint), Wrecsam Egnïol, Hamdden Sir Ddinbych, Cyngor Conwy, Byw’n Iach, Môn Actif ac ysgolion cynradd ac uwchradd. Hefyd maent wedi meithrin perthynas newydd gyda Chwaraeon Anabledd Cymru.

“Rydyn ni wedi bod yn cynnal rhaglenni hyfforddiant rhanbarthol a chymunedol bob wythnos a chynghrair lleol, er mwyn gwella safonau a darparu rhagor o gyfleoedd i chwarae,” meddai Aaron.

“Rydyn ni hefyd wedi dechrau sesiynau ‘sut i hyfforddi tennis bwrdd’ i fyfyrwyr Chwaraeon yn Iâl ac ym mis Rhagfyr mi fydd cystadleuaeth ranbarthol Colegau Cymru yn cael ei chynnal yno.

“Mae gennym ni gymaint ar y gweill, rydyn ni wedi dod yn ein blaen yn arbennig a gobeithio bydd proffil tennis bwrdd yn yr ardal yma yn parhau i dyfu a thyfu.”

Ychwanegodd Sally Jones, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Chwaraeon, Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai, Busnes a Chwaraeon Elit Cambria: “Mae hyn wedi bod yn rhagorol ar gyfer ein dysgwyr ni a’r gymuned hefyd, mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn a heb os nag oni bai mae’r Academi yn darparu llwyfan i’r genhedlaeth nesaf o sêr tennis bwrdd o Ogledd Cymru.”

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at aaron.beech@tabletennis.wales neu ewch i www.tabletennis.wales.

Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Coleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost