main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

AsdaCAMBRIA1

Mewn partneriaeth â Choleg Cambria ac elusen DFN Project Search, mae Asda yn darparu cyfleoedd swyddi llawn amser i ddysgwyr ennill profiad gwaith â thâl yn ei siop yng Nglannau Dyfrdwy.

Mae’r pedwar myfyriwr SBA (Sgiliau Byw’n Annibynnol) wrth eu bodd gyda’u swyddi interniaeth ac yn fwy prysur nag erioed gyda phrysurdeb yr ŵyl.

Yn eu plith ydy Daniel Hodson, sydd wedi bod yn llenwi’r silffoedd ac yn helpu cwsmeriaid yn ystod y Nadolig.

Nadolig. “Mae fel teulu mawr yma, a dwi’n hoff iawn o hynny,” meddai.

“Dwi wedi mwynhau gweithio yn yr adran gynnyrch oherwydd mae gen i brofiad yn gwneud hynny yn barod.

“Buaswn i wrth fy modd yn bod yn arweinydd tîm rhyw ddydd a helpu rhagor o bobl sy’n gwneud interniaeth fel fi i gael cyflogaeth llawn amser.”

Erbyn 2030 mae DFN Project Search yn ceisio helpu 10,000 o oedolion ifanc gydag anabledd dysgu, neu gyflwr sbectrwm awtistiaeth (neu’r ddau) i gael cyflogaeth â thâl, ac maen nhw wedi helpu dros 2,000 o bobl yn barod hyd yn hyn.

O’r flwyddyn nesaf, bydd Asda Queensferry yn cymryd grŵp o wyth o ddysgwyr bob blwyddyn i gefnogi’r rhaglen a chadarnhau ei enw da yn rhagor fel cyflogwr amrywiol a chynhwysol.

Dywedodd Adele Quinn y Rheolwr Siop Cyffredinol bod y lleoliadau gwaith wedi dechrau ym mis Hydref ac maen nhw’n gweld elw yn barod.

“Gwnaeth Cambria ofyn i ni gefnogi’r myfyrwyr i gael swydd, i ddatblygu’r sgiliau, gwybodaeth a’r profiad a fydd gobeithio yn arwain at swydd yn y siop ar ddiwedd y cwrs,” meddai hi.

Ychwanegodd Becs Hitchen-Rielly sy’n Fentor Cyflogadwyedd: “Mae’r buddion yn anferth ar gyfer y coleg a’r myfyrwyr sy’n gwneud yr interniaeth.

“I bobl ifanc sydd ag anawsterau ac anableddau dysgu mae’n gyfle enfawr mewn adrannau gwahanol lle gallan nhw ddewis pa bethau maen nhw’n hoffi a mwynhau eu gwneud.

“Mae’r adborth gan yr unigolion sy’n gwneud yr interniaeth wedi bod yn hollol wych, maen nhw wedi mwynhau pob eiliad o fod yn y siop, helpu cwsmeriaid a dysgu sgiliau newydd a chyfarfod â chyd-weithwyr newydd – mae wedi bod yn arbennig.”

Am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.

Ewch i www.dfnprojectsearch.org i gael rhagor o wybodaeth gan DFN Project Search.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost