main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Coleg Cambria is the number one FE institution in Wales for the Duke of Edinburgh’s Award (DofE)

Mae’r coleg yn y gogledd ddwyrain – sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, Llaneurgain, Llysfasi a Glannau Dyfrdwy – wedi gweld dros 270 o ddysgwyr yn cyflawni’r Wobr Efydd, Arian neu Aur Dug Caeredin dros y flwyddyn ddiwethaf.

Gwnaeth y rhai a oedd wedi cymryd rhan roi 3,107 awr o’u hamser eu hunain ar gyfer gwirfoddoli a gwaith elusennol.

Er mwyn dathlu’r cyflawniad, gwnaeth grŵp o’r elusen ymweld â safle Iâl Cambria yn Wrecsam, gan gynnwys cyn-fyfyriwr a Chyfarwyddwr Gweithredol y DU Gwobr Dug Caeredin Rebecca Kennelly, a Chyfarwyddwr Gwobr Dug Caeredin yng Nghymru, Stephanie Price.

Yn dilyn taith a gafodd ei harwain gan gyfranogwyr y Wobr Aur sef Kitty Davies a Lowri Green, sy’n dod o’r ddinas, roedd cyflwyniad arbennig ar gyfer Gary Abnett ac Alan Lowri, cydlynwyr Gwobr Dug Caeredin Cambria, sydd wedi rhoi bron iawn pum degawd o amser ac ymrwymiad i Wobr Dug Caeredin yng Nghymru.

Gwnaeth Rona Griffiths Rheolwr Dysgwyr a Menter Cambria ddiolch i griw Gwobr Dug Caeredin am gefnogi’r dysgwyr dros y blynyddoedd, yn enwedig y rhai o gefndiroedd heriol.

“Gwnaeth y wobr ein helpu ni i ganolbwyntio ar ein darpariaeth ar gyfer myfyrwyr sy’n agored i niwed neu bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a gwnaethon nhw hyd yn oed cynnig 150 o lefydd wedi’u hariannu er mwyn i ni allu cyflwyno’r cyrsiau iddyn nhw, darparu cymorth ac addysgu sgiliau newydd iddyn nhw,” meddai hi.

“O ganlyniad i hynny mae cannoedd o fyfyrwyr wedi elwa’n fawr, ac mae llawer o hynny oherwydd cydweithwyr ar draws pob safle, sydd wedi’u harwain gan ein cydlynwyr Alan a Gary, sydd wedi gweithio mor galed – gan gynnwys yn eu hamser eu hunain – i’w grymuso nhw, eu haddysgu ac adeiladu eu hyder.

“Rydyn ni mor falch o’r hyn maen nhw wedi’i wneud, a’r effaith mae Cambria wedi’i chael mewn partneriaeth â Gwobr Dug Caeredin, er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu bywydau nhw.”

Gan gadarnhau’r geiriau hynny, ychwanegodd Stephanie: “Mae’n wych gweld cymaint o bobl ifanc o Goleg Cambria yn cyflawni Gwobr Dug Caeredin, sy’n destament i waith caled ac ymrwymiad y dysgwyr a’r arweinwyr Gwobr Dug Caeredin sy’n eu cynorthwyo nhw.

“Llynedd, mi wnaeth cyfranogwyr Gwobr Dug Caeredin Cambria wirfoddoli 3,107 awr, cyfraniad arbennig i’w cymuned nhw ac elusennau lleol.

“Roedd hi’n arbennig gallu diolch i Alan a Gary am eu gwasanaeth hir i adnabod y cyfraniad sylweddol maen nhw wedi’i wneud er mwyn darparu cyfleoedd Gwobr Dug Caeredin i ddysgwyr yn y coleg dros y blynyddoedd.”

Mae gair olaf yn mynd i Kitty a Lowri, sydd wedi siarad yn gadarnhaol iawn am eu profiadau Gwobr Dug Caeredin.

Mae Lowri yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Darland, ac mae hi’n astudio Cyfiawnder Troseddol yn Iâl, dywedodd hi: “Mi wnes i gyflawni gwobrauEfydd ac Arian yn Cambria a rŵan dwi’n gweithio tuag at y wobr Aur. Yn ogystal â dysgu sgiliau newydd mae wedi fy helpu i tuag at fy ngyrfa i gan fy mod i’n gobeithio bod yn heddwas yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Kitty, sy’n fyfyriwr Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai: “Dwi hefyd yn gwneud gwobr Aur ac mae bod yn rhan o Wobr Dug Caeredin wedi fy helpu i gael lleoliadau gwaith a chyfleoedd cyflogaeth. Mae hefyd yn dda ar gyfer eich CV a’r gymuned sy’n werth chweil.”

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

I gael rhagor o wybodaeth am Wobr Dug Caeredin, ewch i’r wefan: www.dofe.org.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost