main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Beauty studies student massaging a clients face

Mae’r coleg – sydd â safleoedd yn Wrecsam, Llaneurgain, Glannau Dyfrdwy a Llysfasi – wedi datgelu cyfres o gyrsiau llawn amser a rhan-amser a fydd yn dechrau ym mis Ionawr.

Mae’r pynciau rhan-amser hyblyg yn cynnwys Creu Gemau Cyfrifiadur, Ffrangeg a Sbaeneg Sgwrsio a Chanolradd, Cyflwyniad i Makaton, Weldio MIG (Metel Nwy Anadweithiol), Trefnu Blodau Canolradd, Dylunio a Datblygu Gwefannau, a Phyrmio Blew’r Amrannau (Triniaeth Codi Blew’r Amrannau).

Mae’r gyfres o raglenni llawn amser yn cynnwys Astudiaethau Harddwch a Chyrsiau Cyfunol Ar-lein Mynediad i AU (Addysg Uwch) diplomâu mewn Iechyd, ac Addysgu, Gwaith Cymdeithasol, Cwnsela a Gwyddorau Cymdeithasol.

Dywedodd Pennaeth Cambria Sue Price bod y cyrsiau’n adlewyrchu datblygiadau mewn nifer fawr o sectorau ledled y DU ac yn fyd-eang.

“Mae’r byd yn symud yn gyflym, ac mae gyrfaoedd yn datblygu o hyd,” ychwanegodd hi.

“Mae’r rhaglenni rydyn ni wedi’u creu ar gyfer mis Ionawr yn adlewyrchu hynny, maen nhw’n bodloni gofynion y diwydiant a marchnadoedd sy’n dod i’r amlwg sy’n fwy cystadleuol nag erioed.

“Mae’n bwysig fel coleg ein bod ni ar flaen y newidiadau yma, dyma pam mae’r ystod o ddiplomâu yma – o Greu Gemau Fideo i Harddwch ac Iechyd – wedi’u creu ar er mwyn cefnogi pobl sydd eisiau symud ymlaen yn ei swydd bresennol neu roi cynnig ar rywbeth newydd, naill ai fel hobi neu’n broffesiynol.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu dysgwyr newydd fis nesaf ac os oes unrhyw un eisiau rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni.”

Ewch i’r wefan www.cambria.ac.uk a dilynwch gyfrifon Coleg Cambria ar gyfryngau cymdeithasol. Fel arall, ffoniwch 0300 30 30 007 neu anfonwch e-bost at enquiries@cambria.ac.uk

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost