main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

A love of animals and passion for photography developed into a new business for talented Jessica Humphreys

Mae’r cyn-fyfyriwr o Goleg Cambria wedi sefydlu ei chwmni ei hun – Emerald Pawtraits – ac mae eisoes yn sicrhau cwsmeriaid o bob rhan o Ogledd Cymru a thu hwnt drwy ei stiwdio ar Ystâd Ddiwydiannol Bromfield yr Wyddgrug.

Yn raddedig o’r cyrsiau Rheoli Anifeiliaid Lefel 3 a HND ar safle Cambria yn Llaneurgain, mae ganddi gynlluniau mawr ar gyfer 2024 a diolchodd i arweinydd y rhaglen, Sadie Thackaberry a’i chydweithwyr am gefnogi ei chyflawniadau academaidd a helpu i danio’r sbardun entrepreneuraidd y tu mewn iddi.

“Fe wnes i fwynhau fy amser yn Cambria yn fawr, a gyda fy nghariad at ffotograffiaeth roedd y syniad o gyfuno’r ddau angerdd mawr yn fy mywyd yn ymddangos yn gam nesaf perffaith i mi ar ôl coleg,” meddai’r ferch 20 oed o’r Wyddgrug.

“Roedd canolbwyntio ar fywyd gwyllt a chadwraeth yn ogystal â phortreadau anifeiliaid anwes, a phrofiad o ymddygiad anifeiliaid, yn sicr wedi helpu i adeiladu fy hyder a fy nhrawsnewidiad o addysg i’r diwydiant yma.”

Ar ôl codi camera am y tro cyntaf yn blentyn, aeth Jessica ymlaen i ennill gwobr yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth Gŵyl Bwyd a Diod yr Wyddgrug yn 11 oed.

Wedi’i hysbrydoli gan ei chi Dotty, ac yn gwrthod gadael i Syndrom Tachycardia Orthostatig Postural – cyflwr sy’n achosi cynnydd yng nghyfradd curiad y galon ac a all arwain at bendro wrth newid ystum, fel eistedd i lawr neu sefyll i fyny – ddod yn rhwystr i lwyddiant, aeth hi hyd yn oed ymlaen i ennill Gwobr Ffotograffydd Bywyd Gwyllt Ifanc y Flwyddyn ar gyfer adran Bywyd Gwyllt y cylchgrawn Ffotograffiaeth Amatur, gyda’i delwedd anhygoel o lwynog trefol sydd i’w weld ar glawr Cylchgrawn Conker Nature.

“Rydw i wastad wedi bod wrth fy modd gyda ffotograffiaeth a phan wnes i ddechrau ei gymryd o ddifri, fe wnes i sylweddoli mai dyma beth rydw i eisiau ei wneud gyda gweddill fy mywyd,” meddai Jessica, a gafodd gefnogaeth hefyd gan Ymddiriedolaeth y Tywysog a Busnes Cymru ar lansio’r cwmni.

“Mae’n ddyddiau cynnar ond rydw i eisoes yn brysur iawn yma yn y stiwdio ac mae gen i lawer o syniadau ar gyfer y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, felly mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair.”

Ychwanegodd Sadie: “Rydyn ni mor falch o Jess, doedd o ddim yn syndod ei gweld yn mynd ymlaen i ddechrau ei hasiantaeth ei hun, o ystyried pa mor ysgogol, creadigol ac ymroddedig ydi hi i anifeiliaid a ffotograffiaeth.

“Rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddi gydag Emerald Pawtraits, mae hi wir yn ei haeddu.”

Ewch i www.emeraldpawtraits.co.uk neu anfonwch e-bost at info@emeraldpawtraits.co.uk i gael rhagor o wybodaeth am Emerald Pawtraits. Hefyd gallwch chi eu dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol ar @emeraldpawtraits.

I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost