main logo
Background Splash

Gan Alex Stockton

Bersham3Peaks

Mae grŵp o ddarlithwyr a staff dan arweiniad Karl Jackson, Pennaeth Cynorthwyol y Sefydliad Technoleg ar safle Ffordd y Bers Coleg Cambria yn Wrecsam, yn bwriadu cwblhau her ‘Skye is the Limit’ fis nesaf (Mai).

diwethaf maen nhw wedi ymgymryd â’r Tri Chopa Cymru a’r ‘Crazy 7’ ar gyfer Cerrig Cymru Gogledd Cymru ac wedi casglu mwy na £1,000 ar gyfer Prosiect Iechyd Mislif (MHP) drwy gwblhau’r ‘Cairngorm 4000s’, taith gerdded dridiau ar draws dros 4,000 troedfedd o fynyddoedd yn ucheldiroedd dwyreiniol yr Alban.

Bu Karl a’r darlithydd Paul Standring hefyd yn concro alldaith pedwar diwrnod ‘Freezing Fingers’ mewn amodau llwm, gaeafol dros fynyddoedd y Rhinogydd yn Eryri.

Y tro hwn mae’r tîm yn codi arian ar gyfer hosbis plant Hope House / Tŷ Gobaith a’r targed yw £1,000 arall drwy oresgyn eu hantur fwyaf eto.

“Fe fyddwn ni’n gyrru am fwy na 12 awr mewn bws mini trwy’r nos cyn cyrraedd Skye ac yna’n cerdded am fwy na thridiau ar draws yr ynys, heb lety,” meddai Karl.

“Bydd popeth sydd gennyn ni’n cael ei bacio mewn bagiau 20 cilo ar ein cefnau – gan gynnwys pebyll, bwyd a dŵr – felly mae’n her anhygoel o anodd ond yn un y byddwn ni’n barod amdani.”

Ychwanegodd: “Dydy’r daith gerdded ddim wedi’i farcio a bydd y dirwedd yn anodd iawn ond fel arfer, byddwn ni’n hyfforddi’n galed ac yn paratoi’n dda. Dyma’r dasg anoddaf a digyfaddawd rydyn ni erioed wedi’i rhoi i ni’n hunain, felly mae llawer iawn yn y fantol.

“Rydyn ni’n cael rhoddion yn barod ac rydyn ni mor ddiolchgar am y gefnogaeth; gobeithio bydd ein partneriaid diwydiant gwych a busnesau lleol yn ein cefnogi ni ac yn helpu i godi cymaint o arian ag y gallwn ni ar gyfer yr elusen anhygoel yma.”

Gwnaeth Bethan Young, codwr arian ardal Hope House / Tŷ Gobaith i Wrecsam, ddiolch i Goleg Cambria am ei gefnogaeth ddiwyro dros y blynyddoedd diwethaf.

“Rydyn ni mor ddiolchgar i Karl a’r tîm o Ffordd y Bers am fentro i gwblhau’r gamp anhygoel yma i fyny yn Skye, mae angen ymrwymiad gwirioneddol, ac maen nhw’n ddewr iawn,” meddai.

“Fe fyddwn ni’n meddwl amdanyn nhw bob cam o’r daith ac yn gwybod y byddan nhw’n gwneud yn wych.”

Dywedodd Bethan hefyd: “Bydd pob ceiniog maen nhw’n ei godi yn mynd yn uniongyrchol i ofalu a chefnogi plant lleol sy’n ddifrifol wael a’u teuluoedd – pob lwc!”

Mae’r sefydliad yn darparu gofal a chymorth hanfodol i blant â chyflyrau sy’n bygwth bywyd ac mae ganddo ddwy hosbis a 15 o siopau ar draws Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Canolbarth a Gogledd Cymru sy’n helpu i godi’r £7.5 miliwn sydd ei angen i ariannu gofal i bob plentyn mewn angen.

I noddi Karl a’r tîm ewch i’w tudalen JustGiving: Mae Karl Jackson yn codi arian ar gyfer Hope House a Tŷ Gobaith (justgiving.com).

Ewch i www.hopehouse.org.uk am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan hosbisau plant Hope House/ Tŷ Gobaith

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost