Home > Oedolion > Gweld Pob Maes Pwnc > Lletygarwch ac Arlwyo
Lletygarwch ac Arlwyo
Lletygarwch ac Arlwyo
Mae’r diwydiant gwasanaethau yn ffynnu, ac os oes gennych chi’r cymwysterau cywir, mae’r cyfleoedd swyddi yn ddiddiwedd. Gall Coleg Cambria gynnig y rhain i chi, gyda’n tiwtoriaid profiadol yn y diwydiant yn canolbwyntio ar wasanaethau i gwsmeriaid, protocolau iechyd a diogelwch a datblygu eich sgiliau ymarferol proffesiynol. Byddwch yn dysgu i baratoi a chreu ystod eang o fwyd, o brydau lleol clasurol i fwyd cuisine rhyngwladol, cacennau, danteithion crwst a mwy.
Bydd hyn oll yn cael ei wneud yn ein ceginau o’r radd flaenaf a’n bwyty ar y safle yn Iâl, lle gallwch brofi eich doniau a gweini i westeion go iawn sy’n talu. Mae gennym gysylltiadau gyda chwmnïau lleol a fydd yn eich helpu i wireddu eich gyrfa ddelfrydol. Yr unig beth sydd ei angen arnoch yw angerdd am fwyd da a gwasanaeth rhagorol; byddwn ni’n dangos y gweddill i chi.