main logo

FdA mewn Rheoli Lletygarwch a Thwristiaeth

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01477
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser,
Adran
Gweithgynhyrchu Bwyd, Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
16 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
31 Jul 2026

Trosolwg o’r Cwrs

2 flynedd, a ddyfernir gan LJMU

Bydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno trwy gyfuniad o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb i weddu eich anghenion unigol, ar yr amod ein bod yn gallu gweithio o fewn deddfwriaeth ac arweiniad Llywodraeth Cymru ac i sicrhau eich diogelwch chi a’n staff ni. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi’r rhai hynny ag anghenion dysgu ychwanegol o bell. Sylwer pan nad oes modd cynnal lleoliadau gwaith am resymau diogelwch, byddwn yn addasu modiwlau i gynnwys prosiectau sy’n gysylltiedig ầ gwaith mewn modd a fydd yn parhau o ddatblygu eich sgiliau gwaith.

Modiwlau
Lefel 4

4501LBSCC - Cyflwyniad i Dwristiaeth Ryngwladol
4502LBSCC - Sgiliau Academaidd a Llythrennedd Digidol
4503LBSCC - Rheoli Bwyd a Diod mewn Lletygarwch
4504LBSCC - Rheoli Profiadau Gwasanaethau
4505LBSCC - Twristiaeth Cymru
4506LBSCC - Marchnata ar gyfer Twristiaeth

Lefel 5

5501LBSCC - Sgiliau Cyflogadwyedd
5502LBSCC - Cynllunio Digwyddiadau
5503LBSCC - Ymchwilio mewn Twristiaeth a Lletygarwch
5504LBSCC - Twristiaeth Gyfrifol a Chynaliadwyedd
5505LBSCC - Cynhyrchu Digwyddiadau
5506LBSCC - Gweithio mewn Twristiaeth a Lletygarwch

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag;

Angharad Jarvis, Arweinydd y Rhaglen
angharad.jarvis@cambria.ac.uk
Bydd amrywiaeth o ddulliau yn cael eu defnyddio i asesu myfyrwyr gan gynnwys traethodau, arsylwadau ymarferol, portffolios tystiolaeth, prosiectau ymchwil a chyflwyniadau (yn unigol ac mewn grŵp).

Bydd LJMU yn rhoi un dystysgrif ar ôl cwblhau’r dyfarniad yn llwyddiannus.
Fel arfer dylai ymgeiswyr arferol allu dangos un o’r cymwysterau canlynol:

O leiaf 88 pwynt Safon Uwch TAG neu gyfwerth
Diploma BTEC priodol – Diploma Estynedig: TTLl
‘Diploma Cyflawniad’ cwrs Mynediad i Addysg Uwch priodol.
Gradd llwyddo mewn cymhwyster galwedigaethol lefel 3 perthnasol

Mae’r Coleg a’r Brifysgol yn annog mynediad a chyfranogiad ehangach mewn Addysg Uwch ac anogir ceisiadau gan y bobl hynny efallai nad oes ganddynt y pwyntiau/cymwysterau angenrheidiol. Bydd Arweinydd y Rhaglen yn trafod gofynion y cwr ac yn asesu pa mor addas yw darpar fyfyrwyr yn seiliedig ar gyfuniad o gymwysterau, profiad a chymhelliant.

Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr aeddfed (21 oed neu hŷn) heb dystiolaeth o’r cymwysterau uchod ond sydd â phrofiad priodol, ddangos brwdfrydedd a dawn i astudio ar lefel uwch.
Mae’r diwydiant cyflym a deinamig hwn yn disgwyl unigolion sydd wedi’u hyfforddi’n dda ac sydd ag etheg waith gref. Ar ôl cwblhau’r FdA mewn Twristiaeth a Lletygarwch, gallwch fynd ymlaen i astudio ymhellach a chwblhau gradd atodol mewn maes cysylltiedig. Bydd gennych hefyd yr opsiwn i fynd i weithio yn y diwydiant. Bydd y cwrs hwn yn galluogi symud ymlaen i swyddi mynediad rheoli, gyda swyddi fel rheoli gwestai, ymgynghori ar deithio, rheoli bwytai a rheoli digwyddiadau.

Gall myfyrwyr sy’n llwyddo i gwblhau’r FdA Twristiaeth a Lletygarwch yn llwyddiannus wneud cais i wneud blwyddyn ychwanegol ym Mhrifysgol John Moores i ennill gradd mewn BA (Anrh) Rheoli Twristiaeth Ryngwladol neu ychwanegu at y cymhwyster gyda rhaglen gysylltiedig.
Ffioedd cwrs £ 7500 y flwyddyn.

Dylid talu ffioedd i LJMU.

Mae’r myfyriwr I dalu am gostau teithio yn ôl ac ymlaen I leoliadau gwaith.

Efallai bydd angen prynu cyfarpar a / neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Mae’r rhain wedi’u nodi yn y Rhestr Cyfarpar.

Cod Cwrs UCAS / SLC: 974589

Defnyddiwch Brifysgol John Moores Lerpwl fel y Sefydliad ar eich cais Cyllid Myfyrwyr.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?