Home > Safleoedd y Coleg > Llysfasi
Llysfasi
Croeso
Mae Llysfasi mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol ac mae’n un o’r lleoedd prydferthaf i astudio yn y DU. Rydym wedi ein lleoli ger Rhuthun yn Nyffryn Clwyd, Gogledd Cymru ac rydym yn agos iawn at Swydd Gaer, Swydd Amwythig a Phowys, ac mae’n hawdd cyrraedd Gogledd a Chanolbarth Cymru o’r safle.
Rydym yn arweinwyr y diwydiant ym maes cyrsiau’r tir ac mae gennym enw da ers amser maith mewn Amaethyddiaeth, Peirianneg Amaethyddol, Cefn Gwlad a Choedwigaeth.
Mae Llysfasi yn gartref i’r ganolfan amaethyddiaeth ac addysg newydd gwerth £10 miliwn, sy’n cynnwys wal ddringo, labordai, siop goffi, mannau cyfarfod a chanolfan llesiant.
Taith Rithwir 360°
Os ydych chi erioed wedi bod eisiau gweld sut olwg sydd ar y safle cyn i chi ymweld neu ddechrau eich taith gyda ni, gallwch wneud hynny o gysur eich cartref eich hun. Os oes gennych benset Rhithrealiti, gallwch weld y daith mewn Rhithrealiti.
Ein Cyfleusterau
Edrychwch ar rai o’n datblygiadau diweddar ac uchafbwyntiau’r safle!
Dewiswch un o’r delweddau neu eiconau isod i weld cynrychioliad 3D o’r cyfleuster hwnnw.
Os oes gennych benset Rhithrealiti, gallwch weld y daith mewn Rhithrealiti.
Dewch o hyd i gwrs sy'n addas i chi yn Llysfasi
Gweld ein safleoedd eraill
Edrychwch ar ein tudalennau eraill trwy ddewis un o’r lluniau isod!
Llogi Lleoliad
Edrychwch ar ein cyfleusterau llogi lleoliad drwy glicio’r botwm isod!
Ble Ydym Ni
Coleg Cambria Llysfasi
Ffordd Rhuthun
Llysfasi
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 2LB
Rhif Ffôn
0300 30 30 007







