Cynlluniau'r Dyfodol
Llety Myfyrwyr yng Ngholeg Cambria Llysfasi
Bydd y llety newydd yn darparu 50 ystafell wely en-suite ar draws tri llawr, gyda chegin fodern, lolfa deledu, a man eistedd a rennir rhwng bob grŵp o 10 ystafell. Mae’r dyluniad hefyd yn cynnwys ardaloedd byw hygyrch pwrpasol i gefnogi dysgwyr sydd ag anableddau. Lle bynnag y bo modd, bydd deunyddiau lleol yn cael eu defnyddio, a bydd y tu allan yn ategu’r ddau adeilad sydd wedi’i gwblhau’n ddiweddar ar y safle, gyda nodweddion fel cladin pren a ffenestri dur llwyd i greu edrychiad modern.
Nodweddion Allweddol
– 50 ystafell wely en-suite
– Cegin fodern
– Lolfa Deledu ac ardal eistedd
– Ardal byw hygyrch
Fideo animeiddiad cyfrifiadurol
Cliciwch y fideo isod i weld ein cynlluniau’n dod yn fyw!


