main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

13/03/2024

17:00

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Adeilad ffordd y Bers

Eisiau dod i’r coleg y flwyddyn nesaf? Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.   

Dewch i’n gweld ni yn ein Digwyddiadau Agored Mis Mawrth lle gallwch chi:

  • Ddarganfod beth sydd ar gael
  • Archwilio ein cyfleusterau o’r radd flaenaf
  • Siarad â’n tiwtoriaid arbenigol
  • Cael ateb i’ch holl gwestiynau
  • Cyfarfod ein myfyrwyr presennol
  • Gwnewch gais am gwrs

Mae dyddiadau ein Digwyddiadau Agored eraill fel a ganlyn:

Glannau Dyfrdwy/ Chweched Glannau Dyfrdwy– Nos Fercher 6 Mawrth – 5pm tan 7pm

Llysfasi – Dydd Sadwrn 9 Mawrth – 10am tan 12pm

Iâl / Chweched Iâl – Nos Fercher 13 Mawrth – 5pm tan 7pm

Llaneurgain – Dydd Sadwrn 16 Mawrth – 10am tan 12pm

Gallwch gadw eich lle o fis Ionawr ymlaen ac yn y cyfamser gallwch chi weld ein hawgrymiadau ar gyfer Digwyddiadau Agored!

Rydyn ni hefyd yn cynnal Digwyddiadau Agored Hygyrch ar gyfer pobl niwroamrywiol sydd eisiau astudio yn Cambria, ar y dyddiadau canlynol:

Glannau Dyfrdwy / Chweched Glannau Dyfrdwy – Nos Iau 14 Mawrth – 5:30pm tan 6:30pm

Iâl / Chweched Iâl – Nos Fercher 20 Mawrth – 5:30pm tan 6:30pm

Ffordd y Bers – Nos Iau 21 Mawrth – 5:30pm tan 6:30pm

Llaneurgain – Nos Fercher 10 Ebrill – 5:30pm tan 6:30pm

Llysfasi – Nos Iau 11 Ebrill – 5:30pm tan 6:30pm