main logo

Tystysgrif L2 Cyfrifeg (Rhan Amser - dydd)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA17686
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, Dydd Llun 13.00 – 19.30 yn yr Ysgol Fusnes
Adran
Cyfrifeg, Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
17 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y cymhwyster hwn yw eich cyflwyno i sgiliau cyfrifo a chyllid syml. Byddwch yn meithrin eich sgiliau mewn gweinyddiaeth cyllid: cofnodi dwbl, egwyddorion costio syml, a chyfriflyfrau prynu, gwerthu a chyffredinol.
Fel cymhwyster annibynnol, neu fel cam cyntaf tuag at y lefelau canolradd ac uwch, bydd yn eich galluogi i symud ymlaen i astudio cyfrifeg a chyllid yn rhagor.

Bydd y lefel ragarweiniol yn addas i chi:
● Os ydych chi’n gweithio ym maes cyfrifon ac yn dymuno cael cymhwyster ffurfiol yn y maes
● Os hoffech chi feithrin sgiliau newydd i’ch cynorthwyo gyda newid eich gyrfa
● Os ydych chi’n ymadawr ysgol sy’n chwilio am gyflwyniad i gyfrifeg a chyllid
● Os nad ydych chi mewn gwaith neu hyfforddiant, a bod angen sgiliau yn y gweithle arnoch chi
Os hoffech chi fod yn aelod llawn o AAT, neu astudio ar gyfer statws siartredig


CYFLWYNIAD I GADW CYFRIFON
● Deall sut i osodo systemau cadw cyfrifon
● Prosesu trafodion cwsmeriaid
● Prosesu trafodion cyflenwyr
● Prosesu derbynebau a thaliadau
● Prosesu trafodion i gyfrifon y cyfriflyfrau

EGWYDDORION RHEOLAETHAU CADW CYFRIFON
● Defnyddio cyfrifon rheoli
● Cymodi cyfriflenni gyda llyfr arian
● Cynhyrchu balansau prawf

EGWYDDORION COSTIO
● Deall cost systemau cofnodi mewn sefydliad
● Defnyddio technegau recordio cost
● Darparu gwybodaeth ar wir gost ac incwm ac wedi’u cyllidebu
● Defnyddio dulliau a thechnegau i gynorthwyo cyfrifiadau cost

YR AMGYLCHEDD BUSNES
● Deall egwyddorion cyfreithiau contract
● Deall yr amgylchedd busnes allanol
● Deall egwyddorion allweddol cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR), moeseg a chynaliadwyedd
● Deall effaith sefydlu gwahanol fathau o endid busnes
● Deall y swyddogaeth gyllid o fewn sefydliad
● Cynhyrchu gwaith mewn fformatau priodol a chyfathrebu'n effeithiol
● Deall pwysigrwydd gwybodaeth i weithrediadau busnes
Cafodd asesiadau AAT eu llunio i asesu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r sgiliau rydych chi wedi eu meithrin. Asesiadau AAT:
● Maent yn asesiadau ymarferol ar gyfrifiaduron (CBA)
● Maent yn cael eu marcio bron yn awtomatig, felly cewch weld y canlyniadau dros dro yn syth. Mae hyn yn eich galluogi i ddeall sut rydych chi’n dod yn eich blaen.

Mathau o asesiadau ymarferol ar gyfrifiaduron (CBA)
Mae dau fath o asesiadau ymarferol ar gyfrifiaduron (CBA):

● Profion ar gyfrifiaduron (CBT) a gaiff eu marcio gan feddalwedd cyfrifiadurol AAT, lle mae canlyniadau dros dro ar gael ar ddiwrnod yr asesiad.
● Prosiectau ar sail cyfrifiadur (CBA) sydd wedi’i farcio’n rhannol ar gyfrifiadur ac yn rhannol gan bobl gan Arholwyr AAT. Mae canlyniadau’r arholiadau hyn yn cymryd 6 wythnos i gyrraedd.
TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg a Mathemateg neu gymhwyster cyfwerth.
Bydd gofyn i chi ymgymryd ag asesiad dechreuol i gadarnhau eich bod yn addas ar gyfer y cwrs hwn.
Swyddi posibl ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn:
● Gweinyddydd Cyfrifon
● Cymhorthydd Cyfrifon
● Clerc Cyfrifon Taladwy
● Ceidwad Cyfrifon
● Gweinyddydd Cyflogres
● Swyddog Cyflogres
● Clerc Cyfriflyfrau Prynu / Gwerthiant
● Cymhorthydd Treth / Dan Hyfforddiant
● Technegydd Cyfrifon Dan Hyfforddiant
£1800

Mae’n rhaid talu cost ychwanegol am Diwtorialau a Llyfrau Gwaith
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?