main logo

Diploma L3 Cyfrifeg (Rhan Amser yn ystod y dydd)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA18241
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, Dydd Mawrth 13.00 – 19.30 yn yr Ysgol Fusnes, Llaneurgain. 05/03/2024
Adran
Cyfrifeg, Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
23 Jul 2024
Dyddiad Gorffen
22 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y cymhwyster hwn yw adeiladu ar y sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y cwrs lefel rhagarweiniol. Byddwch yn meistroli prosesau ariannol mwy cymhleth gan gynnwys cyfrifon terfynol ar gyfer unig fasnachwyr a phartneriaethau, adroddiadau ac enillion, a moeseg broffesiynol.
Fel cymhwyster annibynnol, neu fel cam cyntaf tuag at y lefelau canolradd ac uwch, bydd yn eich galluogi i fynd ymlaen i ddilyn astudiaethau pellach mewn cyfrifeg a chyllid.

Bydd y lefel ganolradd yn addas i chi:
● Os ydych chi wedi cwblhau cwrs cyfrifeg lefel rhagarweiniol, ac yn dymuno ychwanegu at eich sgiliau
● Os ydych chi’n gweithio ym maes cyllid yn barod, ac yn dymuno cael
cydnabyddiaeth ffurfiol o’ch sgiliau
● Os hoffech chi fod yn aelod llawn o AAT, neu astudio ar gyfer statws siartredig

YMWYBYDDIAETH BUSNES

● Deall mathau o fusnes, strwythurau a llywodraethu a’r fframweithiau cyfreithlon y maent yn gweithredu ynddynt
● Deall yr effaith mae’r amgylchedd allanol a mewnol yn ei gael ar fusnesau, eu perfformiad a’u penderfyniadau
● Deall sut mae busnesau a chyfrifwyr yn cydymffurfio gydag egwyddorion a moeseg broffesiynol
● Deall effaith technolegau newydd mewn cyfrifeg a’r peryglon sy’n gysylltiedig â diogelwch data
● Cyfathrebu gwybodaeth i rhanddeiliaid

CYFRIFO ARIANNOL: PARATOI DATGANIADAU ARIANNOL
● Deall yr egwyddorion sy’n sail i baratoi cyfrifon terfynol
● Deall egwyddorion cofnodi dwbl uwch
● Gweithredu gweithdrefnau ar gyfer caffael a gwaredu asedau heb fod yn gyfredol
● Paratoi a chofnodi cyfrifiadau dibrisiant
● Cofnodi addasiadau diwedd cyfnod
● Cynhyrchu ac ymestyn y cydbwysedd prawf
● Paratoi cyfrifon terfynol ar gyfer unig fasnachwyr a phartneriaethau
● Dehongli datganiadau ariannol gan ddefnyddio cymarebau proffidioldeb
● Paratoi cofnodion cyfrifeg o wybodaeth anghyflawn

TECHNEGAU BUSNES A RHEOLI
● Deall gwerth a defnydd cyfrifeg rheoli mewn sefydliadau
● Defnyddio’r technegau sydd eu hangen i ddelio â chostau
● Priodoli costau yn unol ag anghenion sefydliadol
● Ymchwilio i wyriadau oddi wrth y cyllidebau
● Defnyddio technegau taenlen er mwyn darparu gwybodaeth cyfrifeg rheoli
● Defnyddio technegau cyfrifeg rheoli i gefnogi gwneud penderfyniadau tymor byr
● Deall egwyddorion rheoli’r gweithlu

PROSESAU TRETH AR GYFER BUSNESAU
● Deall gofynion ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â TAW
● Cyfrifo TAW
● Adolygu a gwirio dychweliadau TAW
● Deall egwyddorion cyflogres
● Adrodd gwybodaeth o fewn y sefydliad

GWYRIAD
● Deall egwyddorion derbyniol o gyfrifeg cadw cofnodion a chofnodi dwbl
● Deall dulliau cyfrifeg o gofnodi asedau heb fod yn gyfredol
● Cyfrifeg ar gyfer prynu asedau heb fod yn gyfredol
● Cyfrifeg ar gyfer dibrisiad ac addasiadau
● Cyfrifeg ar gyfer defnyddio asedau heb fod yn gyfredol
● Paratoi ac estyn y mantolen brawf
Mae asesiadau AAT wedi cael eu llunio i asesu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r sgiliau rydych chi wedi eu meithrin. Asesiadau AAT:
• Maent yn asesiadau ymarferol ar gyfrifiaduron (CBA)
• Maent yn cael eu marcio bron yn awtomatig, felly cewch weld y canlyniadau dros dro yn syth. Mae hyn yn eich galluogi i ddeall sut rydych chi’n dod ymlaen.

Mathau o asesiadau ymarferol ar gyfrifiaduron (CBA)
Mae dau fath o asesiadau ymarferol ar gyfrifiaduron (CBA):

• Profion ar gyfrifiaduron (CBT) a gaiff eu marcio gan AAT. Bydd canlyniadau dros dro Lefel 2 a 3 ar gael ar ddiwrnod yr asesiad. Bydd canlyniadau Lefel 4 ar gael o fewn chwe wythnos i ddiwrnod yr asesiad.
• Prosiectau ar gyfrifiadur (CBP) a gaiff eu marcio gan eich darparwr hyfforddiant. Bydd y canlyniadau ar gael ar ôl i’r prosiect gael ei asesu a’i ddilysu’n fewnol gan eich darparwr hyfforddiant.
Bydd gofyn i chi ymgymryd ag asesiad dechreuol i gadarnhau eich bod yn addas ar gyfer y cwrs hwn.
Swyddi posib ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn
• Cymhorthydd Cyfrifon
• Goruchwylydd Adran Cyfrifon Taladwy a Threuliau
• Clerc Cyfrifon Taladwy
• Cyfrifydd Cynorthwyol
• Archwiliwr dan hyfforddiant
• Ceidwad Cyfrifon
• Dadansoddydd Adferiad Corfforaethol
• Rheolydd Credyd
• Cymhorthydd Cyllid
• Gweithredwr Methdaliadau
• Gweinyddydd Cyflogres
• Goruchwylydd Cyflogres
• Ceidwad Cyfrifon a Gweithiwr Cyflogres mewn Cwmni Cyfrifeg
• Cyfrifydd Treth
• Cymhorthydd Treth
£1950
Mae’n rhaid talu cost ychwanegol am Diwtorialau a Llyfrau Gwaith
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?