main logo

Diploma Lefel 2 UAL mewn Busnes Ffasiwn ac Adwerthu

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP87924
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

A oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa mewn Busnes a Manwerthu Ffasiwn? Mae'r cwrs blwyddyn hwn wedi'i gynllunio i’ch darpau gyda’r sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth i symud ymlaen i astudio neu hyfforddiant pellach mewn ystod o ddisgyblaethau busnes a manwerthu ffasiwn drwy brofiad dysgu llawn amser, ymdrochol.

Mae'r llwybr Lefel 2 mewn Busnes a Manwerthu Ffasiwn wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer dysgwyr 16 oed neu hŷn sy'n dymuno cael profiad eang yn y sector manwerthu ffasiwn ochr yn ochr â TGAU Saesneg a Mathemateg [os oes angen], datblygiad personol a phroffesiynol a thiwtorial.

Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau cyflwyno, rheoli amser, gwaith tîm, trefnu a chyfathrebu. Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu'r holl broses fanwerthu; o ragolygon tueddiadau, adnabod lefelau'r farchnad, ymchwil, cynaliadwyedd a chadwyni cyflenwi hyd at ei gyrchfan derfynol, boed yn amgylchedd manwerthu go iawn neu'n siop ar-lein

Byddwch yn cael eich cyflwyno i hanes manwerthu ffasiwn, rhagolwg o dueddiadau ffasiwn, dulliau o gyfathrebu syniadau i wahanol gynulleidfaoedd, prynu a gwerthu mewn manwerthu ffasiwn, marchnata, brandio, steilio ffasiwn a masnachu gweledol.

Byddwch yn datblygu eich sgiliau i gynnig atebion creadigol i amgylchedd gwerthu sy'n newid drwy’r amser, gan ddysgu am arferion busnes a manwerthu ffasiwn modern, ei rolau a'i strategaethau busnes sylfaenol. Mae'r sector yn darparu 75 y cant o bob swydd sy'n gysylltiedig â ffasiwn, gyda 414,000 o bobl yn gweithio ym maes manerthu dillad.https://fashionunited.uk/uk-fashion-industry-statistics/

Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn ennill y canlynol UAL Diploma Lefel 2 mewn Busnes Ffasiwn ac Adwerthu
Mae’r cymhwyster yn cynnwys wyth uned sydd wedi’u cynllunio i gynnig dealltwriaeth ddyfnach i chi o’r diwydiant ffasiwn a manwerthu gan fod gan rai ohonynt gysylltiad agos â diwydiannau busnes eraill megis marchnata, hysbysebu, cyfryngau cymdeithasol a rheoli. Byddwch yn cynnal aseiniadau yn y diwydiant, gan gynhyrchu cyflwyniadau o’ch dyluniadau a’ch cynigion ar gyfer amrywiaeth o gynhyrchion.

Ar ddiwedd y cwrs byddwch yn cymhwyso’r sgiliau a’r wybodaeth rydych wedi’u dysgu yn ystod y cwrs I greu a chyflwyno prosiect personol sy’n ymwneud â busnes ffasiwn a manwerthu. Mae pob uned yn orfodol a rhaid I chi eu cwblhau’n llwyddiannus er mwyn cyflawni’r cymhwyster Diploma Lefel 2 mewn Busnes Ffasiwn a Manwerthu.

Os nad oes gennych radd C/4 neu uwch eisoes mewn TGAU Saesneg a Mathemateg, byddwch yn parhau I astudio’r elfennau hyn a fydd yn ffurfio rhan o’ch rhaglen astudio.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af) a Mathemateg.

Ar gyfer dysgwyr dilyniant mae angen cwblhau cymhwyster Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau oll fydd eich graddau, po fwyaf o opsiynau fydd gennych, a gallai arwain at fynediad I gwrs lefel uwch.
Gallech symud ymlaen i’r cwrs Lefel 3 mewn Busnes a Manwerthu Ffasiwn sydd, ar ôl ei gwblau, yn darparu mynediad i addysgu uwch. Fel arall, bydd llawer o ddysgwyr yn defnyddio’r cymhwyster hwn fel man cychwyn ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau busnes creadigol y maenn nhw’n dymuno symud ymlaen iddyn nhw, fel:

• Prynu a masnachu ffasiwn
• Rheoli brandiau
• Marchnata a hyrwyddo
• Masnachu gweledol
• Rheoli ffasiwn/manwerthu
• Cynorthwy-ydd/Cydlynydd cyfryngau cymdeithasol
• Dylanwadwr steil
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisgoedd ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr o offer amgaeedig I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?