main logo

Gwirydd Cymhwysedd

Ydych chi’n gymwys?

  • Ydych chi’n hŷn na 19 oed?
  • Ydych chi’n byw yng Nghymru?
  • Ydych chi mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn? Neu a yw eich swydd mewn perygl?

Os ydych chi wedi ateb ‘ydw’ i’r cwestiynau hyn, dylech chi fod yn gymwys ar gyfer cyllid Cyfrif Dysgu Personol a chyrsiau AM DDIM.

Beth sydd angen i chi ei wneud nesaf?

Mae angen i chi gael y dogfennau canlynol yn barod

  • Eich Pasbort neu Dystysgrif Geni
  • Trwydded Yrru neu Fil Cyfleustodau
  • Slip Cyflog Diweddar

Cliciwch ar y botwm Creu eich Cyfrif Dysgu Personol ar y dudalen hon

Byddwch chi’n cyrraedd ein porth i greu eich Cyfrif Dysgu Personol. Bydd angen i chi greu proffil/cyfrif gyda’r Coleg yma*.

*Os oes gennych chi fanylion mewngofnodi Cambria yn barod o gais blaenorol i’r Coleg, defnyddiwch y manylion hynny.

Ar ôl i chi osod eich proffil/cyfrif gyda’r Coleg, gwnewch y canlynol:

  • Cwblhewch POB rhan o’r ffurflen gais
  • Uwchlwytho’r HOLL dystiolaeth angenrheidiol
  • Cliciwch anfon

Ar ôl i chi glicio anfon, byddwn yn gwirio eich dogfennau a bydd aelod o’r tîm Cyfrif Dysgu Personol yn cysylltu â chi o fewn 7 diwrnod.

Ceisiadau sydd heb eu cwblhau

  • Os nad ydych chi wedi uwchlwytho eich tystiolaeth, byddwch chi’n cael e-bost am 3 diwrnod yn olynol i’ch atgoffa chi.
  • Os nad ydym yn cael unrhyw ymateb ar ôl y 3 e-bost, bydd eich cais yn cael ei gau a bydd angen i chi ddechrau’r broses o greu eich cyfrif eto.

Rhagor o gyngor ac arweiniad

Cysylltwch â pla@cambria.ac.uk os oes gennych chi ragor o gwestiynau neu os oes angen rhagor o arweiniad arnoch chi.