main logo

Datganiad Bloc Lefel 3 Diploma Estynedig Technegol Uwch L3 mewn Peirianneg y Tir

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01469
Lleoliad
Llysfasi
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 3 blynedd, gyda chyfnodau bloc rhyddhau o’r gwaith. Byddwch yn y coleg am naw bloc dros dair blynedd. Bydd pob blwyddyn yn cynnwys tri bloc, yn dod i gyfanswm o ddeuddeg wythnos, i’w cyflwyno o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Adran
Peirianneg Amaethyddol
Dyddiad Dechrau
02 Dec 2024
Dyddiad Gorffen
26 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Cynllun Hyffordd Diploma AGCO hwn yn bartneriaeth rhwng AGCO, sy’n flaenllaw mewn diwydiant, a Choleg Cambria Llysfasi, sy’n arbenigwyr mewn addysg peirianneg amaethyddol. Cafodd yr hyfforddiant hwn, a gafodd ei gymeradwyo gan y diwydiant, ei lunio i alluogi peirianwyr amaethyddol ifanc symud ymlaen i swyddi delwriaethau AGCO ledled y Deyrnas Unedig.

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ofynnol yn y diwydiant peirianneg tir. Byddwch yn astudio ystod eang o feysydd, gan gynnwys: iechyd a diogelwch, cyfrifiadau ar gyfer peirianneg gwasanaethu a phrosesau gweithdy. Byddwch yn dysgu sut i drwsio peiriannau, systemau cerbydau, systemau trydan a systemau hydrolig, yn ogystal â phrofi systemau electronig. Byddwch hefyd yn dysgu sut i drwsio systemau trawsyriant pŵer mecanyddol, trawsyriannau syncro-mesh a chydwyr, trawsyriannau trosglwyddo pŵer a thrawsyriannau hydrostatig neu hydro-fecanyddol (CVT). Byddwch hefyd yn dysgu sut i drwsio peiriannau aredig neu ddrilio, peiriannau chwistrellu, peiriannau cynaeafu porthiant a pheiriannau cynaeafu cnydau gwreiddlysiau neu beiriannau y gellir eu cyfuno.

Mae’r Cynllun Hyffordd Diploma AGCO yn gyfle i “ennill cyflog wrth i chi ddysgu”.
Trwy gymryd rhan yn y Cynllun Hyffordd Diploma AGCO, a’i gwblhau’n llwyddiannus, bydd gennych gymhwyster a gafodd ei gymeradwyo gan y diwydiant, a byddwch yr un pryd yn meithrin sgiliau a chael profiad ymarferol gwych drwy gynllun gyda chefnogaeth gweithgynhyrchwr ac yn ennill cyflog. Mae Cynlluniau Hyfforddi Diploma AGCO wedi helpu nifer fawr o bobl ifanc i ymuno â’r sector peirianneg peiriannu’r tir yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r cwrs yn cael ei addysgu’n bennaf drwy sesiynau ymarferol yn ein gweithdy sy'n arwain y sector, gan ddarlithwyr a hyfforddwyr sydd wedi’u hyfforddi gan AGCO. Byddwch yn defnyddio'r offer a'r peiriannau diagnostig diweddaraf, gweithrediadau tractor a gwaith maes, gweithgareddau ystafell ddosbarth, ymweliadau a siaradwyr gwadd. Byddwch yn dysgu trwy ddefnyddio nifer o wahanol ddulliau, gan gynnwys sesiynau theori, gwaith unigol, gwaith grŵp a thasgau ymarferol.

Mae’r cwrs yn cynnwys Hyfforddiant Technegol Gwneuthurwr yn academi hyfforddi AGCO.
Gall cymwysterau deddfwriaethol gynnwys, Gyrru Tractor, Gyrru Peiriant Telesgopig, Weldio, Cerbydau Pob Tir (ATV), Tryc Fforch Godi, Olwynion Sgraffinio, Gofal Cwsmer, Gosodiadau, Aerdymheru a Thrin Oerydd
Cynhelir asesiadau yn gyson drwy gydol y flwyddyn ar ffurf aseiniadau, arsylwadau ymarferol, profion bychain, arholiadau ac asesiad synoptig.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af) a Mathemateg neu Ddiploma Lefel 2 mewn Peirianneg Amaethyddol.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Cyflogaeth mewn swyddi gyda chwmnïau AGCO ledled y Deyrnas Unedig.
Peiriannydd amaethyddol, peiriannydd gwasanaethau’r maes, technegydd gweithdai, marchnata a gwerthu.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?