main logo

Mynediad i Beirianneg

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00246
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, 1 Blwyddyn ( 3 diwrnod yr wythnos)
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Mynediad i Beirianneg yn cynnig rhaglen â chymorth llawn i ddysgwyr ar gam cyntaf eu taith addysg bellach yn y coleg.

Bydd y rhaglen yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc chwalu unrhyw rwystrau a allai fod ganddynt i ddysgu, gan ganiatáu iddynt dyfu a datblygu’n bersonol, yn gymdeithasol ac yn academaidd er mwyn cyflawni eu llawn botensial yn llwyddiannus a symud ymlaen i’w lefel nesaf o ddysgu neu gyflogaeth yn y dyfodol.

Bydd y cwricwlwm craidd yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu hyder, eu sgiliau bywyd a chyflogadwyedd mewn awyrgylch cefnogol a chroesawgar. Byddant yn cwblhau sesiynau ymarferol mewn gweithdai ac yn ymdrin â theori mewn perthynas â:
Gwneuthuro a Weldio, Peirianneg a Cherbydau Modur

Bydd gweithgareddau cyfoethogi yn datblygu sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm ac arwain, gan helpu i fagu hyder a goresgyn unrhyw bryderon neu rwystrau cymdeithasol. Yn ystod y gweithgareddau hyn bydd dysgwyr yn gweithio tuag at dystysgrif Cyflawniad Ymddiriedolaeth y Tywysog.

Bydd llythrennedd a rhifedd yn brif ganolbwynt ar gyfer pob dysgwr ar y rhaglen a bydd bob dysgwr yn cael y cyfle i wneud cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.

Mae’r cwrs hwn yn cynnig llawer o dasgau ymarferol a fydd hefyd yn helpu i ddatblygu eich sgiliau Mathemateg, Saesneg a Llythrennedd Digidol.

Bydd dysgwyr yn cael Anogwr Cynnydd a fydd yn eu cynorthwyo yn ystod y rhaglen. Ynghyd â’r Prif Diwtor Cwrs bydd y tîm yn sicrhau bod unrhyw gymorth ADY yn ei lle cyn i ddysgwyr ddechrau a bod unrhyw anghenion cymorth newydd sy’n codi yn cael eu cynnwys yn eu rhaglen er mwyn eu helpu i lwyddo. Darperir cymorth llawn i fodloni anghenion a gwahaniaethau dysgu unigol.

Cyflwynir y cwrs dros dri diwrnod a bydd yn gymysgedd o gyflwyno yn y dosbarth a chyflwyno ymarferol dan do ac yn yr awyr agored.
Bydd pob dysgwr yn cwblhau asesiadau diagnostig WEST ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Bydd myfyrwyr yn gweithio tuag at ystod o unedau i’w helpu i gyflawni cymhwyster Mynediad Bywyd a Sgiliau Byw, cymhwyster Cyflawni Ymddiriedolaeth y Tywysog a Gwobr Efydd Dug Caeredin i gefnogi dilyniant pellach i Addysg Bellach neu Ddysgu Seiliedig ar Waith.
Mae’r cwrs wedi’i ddylunio ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio ar lefel Mynediad ac felly nid oes angen cymwysterau ffurfiol i gyrchu’r cwrs hwn.

Fodd bynnag, byddem yn eich annog I wneud y gorau y gallwch yn eich arholiadau. Po orau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych.
Bydd dysgwyr yn cael eu cynorthwyo i gynllunio eu camau nesaf yn ystod y cwrs. Gallai dilyniant fod yn un o’r canlynol:
Cwrs lefel uwch mewn maes galwedigaethol mewn maes o’ch dewis
Rhaglen hyfforddeiaeth neu brentisiaeth
Cyflogaeth
Rhaglen yn y gymuned
Efallai y bydd angen prynnu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?