main logo

Mynediad i Adeiladu

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01418
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, 1 Flwyddyn (3 diwrnod yr wythnos)
Adran
Adeiladu a Gwaith Adeiladu, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Mynediad i Sgiliau Adeiladu yn cynnig rhaglen a gefnogir yn llawn i ddysgwyr ar gam cyntaf eu taith addysg bellach yn y coleg.

Bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i bobl ifanc i chwalu unrhyw rwystrau sydd ganddynt o bosib i ddysgu, gan eu galluogi i dyfu a datblygu; yn bersonol, yn gymdeithasol ac yn academaidd, er mwyn cyflawni eu potensial llawn yn llwyddiannus a symud ymlaen i lefel nesaf eu dysgu neu gyflogaeth yn y dyfodol.

Bydd y cwricwlwm craidd yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu hyder a’u sgiliau bywyd a chyflogadwyedd mewn amgylchedd cefnogol a chroesawgar. Byddant yn profi gwahanol feysydd galwedigaethol ac yn cynnal gweithdai ymarferol wythnosol yn y maes Masnach Adeiladu. Bydd y rhain yn cynnwys:

• Gosod Brics
• Gwaith Saer ac Asiedydd

Bydd gweithgareddau cyfoethogi yn datblygu sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm ac arwain, gan eich helpu I adeiladu eich hyder a goresgyn unrhyw bryderon neu rwystrau cymdeithasol sydd gennych. Yn ystod y gweithgareddau hyn, bydd dysgwyr yn gweithio tuag at Dystysgrif Cyflawniad Ymddiriedolaeth y Tywysog a Gwobr Efydd Dug Caeredin.

Bydd dysgwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd. Pan fydd y dysgwyr yn barod, byddant yn cael cyfle I ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.

Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnig llawer o dasgau ymarferol a fydd hefyd yn helpu I ddatblygu eich sgiliau Mathemateg, Saesneg a Llythrennedd Digidol.

Bydd dysgwyr yn cael Anogwr Cynnydd a fydd yn eu helpu trwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith cyn I ddysgwyr ddechrau ar eu cwrs. Bydd hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eu rhaglen I helpu i’r dysgwyr lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn I fodloni anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno dros dri diwrnod a bydd yn gymysgedd o ddarpariaeth yn yr ystafell ddosbarth, mewn gweithdy ac oddi ar y safle.
Bydd pob dysgwr yn cwblhau’r asesiadau diagnostig WEST ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Bydd myfyrwyr yn gweithio tuag at ystod o unedau i’w helpu i gyflawni cymhwyster Mynediad Sgiliau Bywyd a Byw, cymhwyster Cyflawniad Ymddiriedolaeth y Tywysog a gwobr efydd Dug Caeredin i’w cynorthwyo i symud ymlaen i addysg bellach neu ddysgu yn y gwaith.
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio ar lefel Mynediad ac nid oes angen cymwysterau ffurfiol i ddechrau ar y cwrs hwn.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Bydd dysgwyr yn cael cymorth i gynllunio eu camau nesaf drwy gydol y cwrs. Gellir symud ymlaen i un o’r canlynol:

Cwrs lefel uwch mewn maes galwedigaethol o’ch dewis chi
Hyfforddeiaeth neu raglen brentisiaeth.
Gwaith
Rhaglen yn y gymuned
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?