main logo

Lefel 3 UAL Diploma mewn Cynhyrchu a Thechnoleg yn y Cyfryngau Creadigo

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00386
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs dwy flynedd llawn amser.
Adran
Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae ein Diploma Cyfryngau Creadigol yn cynnig rhaglen astudio amlddisgyblaethol sy'n seiliedig ar ymarfer, a fydd yn herio ac yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i fynd ymlaen i hunangyflogaeth neu raglenni astudio uwch, megis graddau.

Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol niferus yn ystod y Bŵt-Camp cychwynnol ac yn gweithio drwy 7 uned graidd cyn arbenigo yn y maes astudio o'ch dewis chi, fel gwneud ffilmiau, golygu fideo, ysgrifennu sgriptiau, creu cynnwys, animeiddio, ffotograffiaeth, dylunio gêmau, darlunio digidol, dylunio graffeg, datblygu apiau, cyfryngau print digidol neu gynhyrchu sain.

Byddwch yn creu cyfryngau ystyrlon ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd ar draws llwyfannau niferus, gan ddefnyddio ein hystafell sgrin werdd, stiwdio ffilm, stiwdio ffotograffiaeth, ardal animeiddio ac ystafell radio.

Byddwch hefyd yn gweithio yn ein stiwdios Mac gan ddefnyddio meddalwedd o safon diwydiant.

Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?
Byddai unrhyw un sy'n dymuno gweithio yn niwydiant y cyfryngau fel crëwr cynnwys llawrydd neu symud ymlaen i astudiaeth bellach yn y Cyfryngau ar lefel Gradd yn elwa o'r cwrs hwn.
Nid oes angen profiad blaenorol o'r cyfryngau arnoch ond mae diddordeb yn y cyfryngau yn hanfodol. Mae angen i chi hefyd fwynhau gweithio gydag eraill, gallu datblygu eich syniadau creadigol eich hun a bod yn ddysgwr annibynnol.

Beth fydda i'n ei astudio?
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o ddiwydiant y cyfryngau ac yn eich galluogi i ganolbwyntio ar faes arbenigol ar ôl cyflwyniad cychwynnol i ystod eang o ddisgyblaethau. Ar hyn o bryd, y pynciau astudio yw gwneud ffilmiau, golygu fideo, ysgrifennu sgriptiau, creu cynnwys, animeiddio, ffotograffiaeth, dylunio gêmau, darlunio digidol, dylunio graffeg, datblygu apiau, cyfryngau print digidol a chynhyrchu sain.

Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn ennill y canlynol UAL Lefel 3 Diploma mewn Cynhyrchu a Thechnoleg yn y Cyfryngau Creadigo.
Mae hwn yn gymhwyster sy’n seiliedig ar waith cwrs, ac felly nid oes arholiadau ffurfiol. Byddwch yn cael eich asesu trwy gydol y flwyddyn yn ôl meini prawf sydd wedi cael eu gosod cyn dechrau pob uned. Mae’r holl waith yn cael ei asesu’n fewnol cyn daw safonwr ymweld I samplo a chadarnhau marciau.
5 TGAU graddau A*-C neu 9-3 ar gyfer TGAU Saesneg, gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf).

Ar gyfer dysgwyr sy’n symud ymlaen, mae gofyn am gwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Mae’r Diploma Estynedig Lefel 3 yn galluogi mynediad uniongyrchol i brifysgol os bydd y radd derfynol a ddymunir yn cael ei chyflawni. Mae hefyd yn darparu llwybrau I raglenni prentisiaeth uwch a hunangyflogaeth.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?