main logo

Diploma Cenedlaethol Lefel 3 BTEC mewn Ymchwilio Fforensig a Throseddol

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01530
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs 2 flynedd llawn amser.

Mae Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 BTEC mewn Ymchwilio Fforensig a Throseddol yn cael ei gwblhau erbyn diwedd yr ail flwyddyn o astudio.
Mae hyn yn cyfateb i 3 Safon Uwch.

Bydd dysgwyr yn anelu at gyflawni’r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch ochr yn ochr â’u cwrs BTEC sy’n gwrs cyfwerth â Safon Uwch.
Felly, bydd dysgwyr llwyddiannus yn cyflawni’r hyn sy’n cyfateb i 4 Safon Uwch, gan roi’r pwyntiau UCAS sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i’r brifysgol.

Adran
Gwyddoniaeth
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Gwyddoniaeth fforensig yw cymhwyso gwyddoniaeth ar gyfer datrys anghydfodau cyfreithiol ac fel tystiolaeth i brofi neu wrthbrofi trosedd, gan ddefnyddio gwybodaeth ddiragfarn i sefydlu a yw trosedd wedi digwydd ac i werthuso tystiolaeth lleoliad trosedd.
Mae'r rhaglen 2 flynedd yn cyfateb i 3 Safon Uwch ac yn cynnwys 13 uned sy'n rhoi trosolwg eang o egwyddorion a chymhwyso gwyddoniaeth fforensig, seicoleg fforensig, a throseddeg fel y maent yn cael eu cyflwyno mewn prosesau llys o dan gyfraith y DU.
Mae'r unedau'n ymdrin â throseddeg ac arfer fforensig sy’n cael eu cymhwyso i gyd-destunau a senarios bywyd go iawn. Yna caiff y rhain eu hategu gan unedau sy'n ymdrin ag egwyddorion craidd Bioleg, Cemeg a Ffiseg, yn debyg i'r hyn sy’n cael ei gwmpasu mewn Safon Uwch.


Yn y flwyddyn gyntaf, mae 6 uned yn cael eu cymryd;
● Uned 1 - Egwyddorion a Chymwysiadau Gwyddoniaeth 1 (90 GLH)*
● Uned 2 - Gweithdrefnau a Thechnegau Gwyddonol Ymarferol (90 GLH)
● Uned 3 - Sgiliau Ymchwilio Gwyddoniaeth (120 GLH)**
● Uned 4 - Gweithdrefnau Ymchwilio Fforensig ar Waith (90 GLH)
● Uned 9 - Fforenseg Amgylcheddol (60 GLH)
● Uned 13 - Geneteg Fforensig (60 GLH).

Yn yr ail flwyddyn, mae 7 uned arall yn cael eu cymryd;
● Uned 5 - Cymwysiadau Troseddeg (120 GLH)**
● Uned 6 - Gweithdrefnau Ymchwilio Troseddol Ar Waith (90 GLH)
● Uned 7 - Cymwysiadau Seicoleg Fforensig a Throseddol (120GLH)**
● Uned 10 - Ymchwiliad Tân Fforensig (60GLH)
● Uned 11 - Ymchwiliad Gwrthdrawiadau Traffig Fforensig (60 GLH)
● Uned 12 - Ffotograffiaeth Fforensig (60 GLH)
● Uned 14 - Anthropoleg ac Archeoleg Fforensig (60 GLH)
● Uned 15 - Dadansoddi Cemegol Ymarferol (60GLH).

* Arholiad ysgrifenedig wedi’i osod yn allanol
** Tasg wedi’i osod yn allanol sy’n cael ei wneud yn y coleg
Mae’r unedau eraill i gyd yn dasgau aseiniad sy’n cael eu hasesu’n fewnol

Caiff Uned 1 ei hasesu gan bapur ysgrifenedig sydd wedi’i osod yn allanol a’i farcio gan y bwrdd arholi.
Caiff unedau 3, 5 a 7 eu hasesu drwy dasgau a osodir yn allanol o dan amodau rheoledig.

Mae’r unedau eraill i gyd yn cael eu hasesu’n fewnol. Mae’r dulliau asesu yn grynodol ac wedi’u cynllunio i brofi dealltwriaeth y myfyrwyr o gynnwys y theori yn ogystal â defnyddio sgiliau ymarferol o fewn ffug senarios ymchwilio fforensig ac ymchwilio troseddol. Mae enghreifftiau’n cynnwys ymchwilio i leoliadau trosedd ffug, damweiniau traffig ffug, cloddio beddau bas, ac adnabod gweddillion. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael eu hasesu drwy senarios croesholi mewn llys barn. Mae’r asesiadau hyn yn rhai ‘llyfr agored’ ac yn gwneud defnydd o ddeunyddiau dosbarth, gwaith cartref ffurfiannol, gweithgareddau ymarferol yn ogystal ag astudio ac ymchwilio hunangyfeiriedig. Mae’r dulliau asesu yn amrywiol, yn dibynnu ar yr uned sy’n cael ei hastudio ac yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau, tasgau ymarferol, a gweithgareddau ymchwil.

Bydd yr holl waith aseiniad yn cael ei gyflwyno’n electronig trwy Google Classroom.

Graddio ac Ardystio
● Mae graddau’r cwrs terfynol yn amrywio o D*D*D* i PPP (sy’n cyfateb i A*A*A* i EEE yn Safon Uwch)


Mae angen o leiaf 5 gradd TGAU A*-C / 9-4, i gynnwys;
● TGAU Mathemateg
● TGAU Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf
● Ynghyd ag un o’r opsiynau Gwyddoniaeth canlynol:
○ TGAU Gwyddoniaeth Ddwbl / Gwyddoniaeth Gymhwysol – CC o leiaf
○ TGAU Bioleg, Cemeg a Ffiseg Ar Wahân – CCC o leiaf
○ Cymhwyster BTEC cyntaf mewn Egwyddorion a Chymhwyso Gwyddoniaeth Gymhwysol – o leiaf TT

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Mae’r dilyniant naturiol o’r cwrs hwn naill ai’n gwrs gradd llawn amser neu’n uniongyrchol i swydd/prentisiaeth lefel uwch. Mae dros 250 o gyrsiau gradd fforensig yn y DU, yn amrywio o Fforenseg a Throseddeg, i Wyddor Troseddau Casineb, Dadansoddi Fforensig, Fforenseg Ddigidol, a chyrsiau fforensig Meddygol fel Radioleg Fforensig.

Yna gall y BTEC mewn Ymchwilio Fforensig a Throseddol gyda gradd briodol ddarparu mynediad i waith fel gwyddonydd fforensig o fewn yr Heddlu, tollau, ac asiantaethau ymchwilio eraill yn ogystal â maes Patholeg, fel Technegydd Patholeg Anatomegol, y GIG, y fyddin, a’r diwydiant fferyllol.

Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?