main logo

HNC mewn Cyfrifiaduro

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01494
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, Iâl – 2 flynedd, 2 noson yr wythnos, 34 wythnos y flwyddyn

Dydd Llun – 18:00-21:00
Dydd Mawrth – 18:00-21:00

Blwyddyn 1 yn Dechrau: 18/09/23
Blwyddyn 1 yn Gorffen: 25/06/24
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Dyddiad Dechrau
25 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
31 Jul 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi’n chwilio am gymhwyster cydnabyddedig i roi hwb i chi ddechrau gyrfa newydd yn y maes digidol? Ydych chi eisiau meithrin gwybodaeth a sgiliau sy’n berthnasol i yrfa a fydd yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy i sefydliadau a busnesau amrywiol? Os felly, dyma’r cwrs i CHI!

Mae’r cymhwyster Tystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC wedi’i ddylunio er mwyn mynd i’r afael â’r angen cynyddol am addysg broffesiynol a thechnegol o safon uchel. Mae’r dystysgrif yn darparu llwybr clir i fyfyrwyr at ragor o hyfforddiant neu ddilyniant at addysg uwch.

Mae’r cymhwyster wedi’i anelu at fyfyrwyr sydd eisiau parhau gyda’u haddysg trwy ddysgu cymhwysol. Mae’n darparu amrywiaeth eang o astudio yn y sector cyfrifiadura ac wedi’i ddylunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau dechrau gyrfa neu ddatblygu yn eu gyrfa yn y meysydd hyn.

Mae Tystysgrif Genedlaethol Uwch Lefel 4 BTEC Pearson mewn Cyfrifiadura yn cynnig cyflwyniad eang i’r maes pwnc i’r myfyrwyr trwy graidd o ddysgu gorfodol. Mae’n galluogi caffael sgiliau a phrofiad trwy unedau ychwanegol ar draws amrywiaeth o sectorau galwedigaethol ar Lefel 4. Gyda hyn bydd y sgiliau craidd sylfaenol yn cael eu meithrin yn effeithiol. Bydd myfyrwyr yn ennill ystod eang o wybodaeth sector sy'n gysylltiedig â sgiliau ymarferol sy’n cael eu meithrin wrth ymchwilio, hunan astudio, astudio dan arweiniad ac mewn sefyllfaoedd yn y gwaith.

Yn ystod y ddwy flynedd ar y cwrs hwn byddwch yn astudio’r unedau canlynol -

Rhwydweithio
Dylunio a Datblygu Cronfa Ddata
Rheoli Prosiect Cyfrifiadura Llwyddiannus
Dylunio a Datblygu Gwefannau
Rhaglennu
Ymarfer Proffesiynol
Diogelwch
Dadansoddeg Data

Mae astudio cwrs Tystysgrif Genedlaethol Uwch yng Ngholeg Cambria yn eich galluogi I weithio gyda chynnyrch arloesol a thechnoleg sy’n newid yn y sector sy’n tyfu gyflymaf yn y byd. Mae’n eich rhoi chi yn y lle gorau posib I fanteisio ar yr amgylchedd digidol a’ch potensial.

Bydd ein cwrs yn rhoi’r cyfuniad cywir o sgiliau I symud ymlaen yn eich gyrfa yn y diwydiant hwn sy’n symud yn gyflym. Byddwch yn dysgu am yr amrywiaeth o agweddau o galedwedd a meddalwedd, a sut y maent yn berthnasol i’r byd go iawn.

Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly gwnewch gais heddiw!
Asesiad parhaus drwy dasgau a monitro gan diwtoriaid
Cymhwyster galwedigaethol Lefel 3 gyda phroffil gradd TTT o leiaf, 3 gradd Safon Uwch gyda phroffil gradd D neu uwch, Diploma Mynediad i AU sy’n cynnwys 45 credyd ar Lefel 3, rhaid i 30 ohonynt fod yn Deilyngdod neu’n uwch, neu brofiad perthnasol a gallu i astudio a gweithredu ar Lefel 4.
Bydd graddedigion sy’n cwblhau’r Dystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC Pearson mewn Cyfrifiadura yn gallu arddangos gwybodaeth gadarn am gysyniadau sylfaenol cyfrifiadura. Byddant yn gallu cyfathrebu’n gywir ac yn briodol a bydd ganddynt y rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am rywfaint o gyfrifoldeb personol. Byddant wedi meithrin ystod o sgiliau trosglwyddadwy i sicrhau y byddant yn gallu gweithio’n effeithiol fel aelod o dîm, cynlluniau annibynnol, cymhwysedd sefydliadol a strategaethau datrys problemau. Bydd ganddynt ymagwedd hyblyg tuag at gyfrifiadura, yn dangos gwytnwch o dan bwysau, ac yn bodloni targedau heriol gyda’r adnoddau a roddwyd iddynt.

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gall myfyrwyr ddatblygu eu gyrfaoedd yn y sector cyfrifiadura drwy:
• Gyflogaeth
• Parhau gyda’u swydd bresennol
• Cysylltu â’r darparwyr tystysgrifau achrededig priodol
• Ymrwymo i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
• Symud ymlaen i’r brifysgol

Bydd y sgiliau sy’n cael eu cynnig fel rhan o’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i raddedigion weithio ym meysydd gwahanol y sector cyfrifiadura. Dyma rai enghreifftiau o yrfaoedd y gallai’r cymhwyster arwain atynt:

• Peiriannydd Rhwydweithiau
• Pensaer Systemau
• Technegydd Gwasanaethau a Thrwsio Cyfrifiaduron
• Rheolwr Rhwydweithiau
• Datblygwr Meddalwedd
• Dyluniwr Systemau
• Dadansoddwr Busnes
• Datblygwr Gemau
• Datblygwr Gwefannau
• Dadansoddwr Data
• Dadansoddwr Busnes
• Dadansoddwr Marchnata
Rhan Amser £2500 y flwyddyn.

Gallai ffioedd godi yn unol â chwyddiant ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy’n dechrau eu hastudiaethau yn 2025/26 neu 2026/27.

Defnyddiwch Goleg Cambria fel y Sefydliad ar eich cais Cyllid Myfyrwyr.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?