main logo

FdEng Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch - Mecanyddol

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP51320
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, Gradd Sylfaen neu Brentisiaeth Uwch 2 flynedd, rhan-amser
Gradd Anrhydedd Baglor 3 blynedd, rhan-amser

Bydd gofyn i fyfyrwyr ar y cwrs hwn ymgymryd â chyfnodau o hunan-astudio a rhywfaint o amser ym Mhrifysgol Abertawe yn ogystal ag oriau a addysgir.
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
26 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
31 Jul 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Byddwch yn astudio sbectrwm eang o bynciau gweithgynhyrchu uwch a ddatblygwyd yn unol â gofynion cyflogwyr. Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr a phrentisiaid uwch sy'n dymuno gwella rhagor ar eu gwybodaeth a symud ymlaen ym maes peirianneg gweithgynhyrchu.

Dyma nodweddion allweddol astudio'r radd hon yn Cambria:

• Mae’r modiwlau i gyd yn cael eu haddysgu gan diwtoriaid Peirianneg Cambria neu Brifysgol Abertawe sydd ag ystod eang o wybodaeth ddiwydiannol ac academaidd.
• Cysylltiadau rhagorol â llawer o fusnesau ac arweinwyr busnes
• Cyfleusterau ac adnoddau o safon ryngwladol
• Cymysgedd o astudiaethau academaidd sy'n gysylltiedig â chymwysiadau galwedigaethol ymarferol ym mhob modiwl pwnc
• Cymorth rhagorol i fyfyrwyr, â'r myfyrwyr i gyd yn cael tiwtor personol
• Darparwr llwybrau prentisiaeth profiadol.

Modiwlau:
Blwyddyn 1:
• Dadansoddi Peirianneg 1
• Busnes, Rheoli ac Ansawdd
• Egwyddorion Trydanol ac Electronig
• Gweithgynhyrchu Peirianneg
• Gwyddor Peirianneg
• Dysgu yn y Gwaith
• Arferion Peirianneg Proffesiynol

Blwyddyn 2:
• Dadansoddi Peirianneg 2
• Gweithgynhyrchu Uwch, CAM ac NDT
• Dadansoddi Diriant a Dynameg
• Prosiect Diwydiannol
• Cylchedau, Rheolaeth ac Offeryniaeth Trydanol
• Peirianneg â Chymorth Cyfrifiadur
• Deunyddiau Peirianneg


Bydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno drwy gyfuniad o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb I gyd-fynd â'ch anghenion unigol, ar yr amod ein bod yn gallu gweithio o fewn canllawiau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru I sicrhau eich diogelwch chi a'n staff. Byddwn hefyd yn parhau I gefnogi'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol o bell. Sylwer, lle na ellir cyflawni lleoliadau gwaith am resymau diogelwch, byddwn yn addasu modiwlau I gynnwys prosiectau sy'n gysylltiedig â gwaith mewn ffordd a fydd yn dal I ddatblygu eich sgiliau yn y gwaith.

Dyma gwrs ar gyfer ymgeiswyr sydd yn cael eu cyflogi mewn maes peirianneg perthnasol. Bydd gofyn i gyflogwyr gynorthwyo trwy roi amser i’r ymgeiswyr ddod ar y cwrs a chynnal eu hastudiaethau, heb unrhyw ofyn i weithio oriau ychwanegol yn eu lle, neu ostwng eu cyflog.
Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau rhyngweithiol, siaradwyr gwadd, gweithdai a dulliau ‘Dysgu Wyneb i Waered’.

Asesir y rhan fwyaf o fodiwlau drwy arholiadau ac aseiniadau. Byddwch yn cael adborth ac awgrymiadau ynghylch lle i wella ar gyfer pob aseiniad ac arholiad.

Mae lleoliadau gwaith yn ofynnol ar gyfer y modiwlau yn y gwaith. Treulir tua 1 wythnos y flwyddyn ar safle’r brifysgol yn Abertawe.
Mynediad Fd/BEng Awyrennau/Gweithgynhyrchu Uwch

Fd/BEng Blwyddyn 1

Cymwysterau Safon Uwch â graddau BBB gan gynnwys Mathemateg a Ffiseg. Nid oes gofyniad penodol ar gyfer y trydydd cymhwyster Safon Uwch, ond mae un o’r pynciau canlynol yn cael eu ffafrio: Cemeg, Dylunio, TG/Cyfrifiadura, Mathemateg Bellach neu Fusnes/Economeg.
Cymhwyster HNC perthnasol (120 credyd, gweler y nodyn isod ar gyfer mynediad i Flwyddyn 2).
Gall myfyrwyr sydd â chymhwyster Lefel 3 BTEC gyda gradd Rhagoriaeth yn gyffredinol gan gynnwys rhagoriaeth yn y modiwl Mathemateg Bellach wneud cais hefyd. Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried fesul achos ac efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr sefyll arholiad mynediad a llwyddo ynddo.

Fd/BEng Blwyddyn 2

Gallai myfyrwyr sydd â graddau modiwlau digon uchel* ymuno ag ail flwyddyn y rhaglen Fd/BEng. Bydd Staff Academaidd Prifysgol Abertawe a Cambria yn ystyried ceisiadau fesul achos.

* – Fel arfer, graddau Rhagoriaeth gan gynnwys mathemateg.

BEng Blwyddyn 3

Bydd Gradd Sylfaen sydd â modiwlau tebyg iawn yn cael eu hystyried fesul achos gan Staff Academaidd Prifysgol Abertawe a Cambria.

• Yn ogystal â hynny, mae’n rhaid bod gan bob ymgeisydd gradd C neu uwch mewn TGAU Iaith Saesneg a TGAU Mathemateg neu Rifedd.

Bydd Staff Academaidd Prifysgol Abertawe a Cambria yn ystyried fesul achos unrhyw asesiad o ddysgu blaenorol (fel dyfarniadau datblygiad proffesiynol neu ddyfarniadau sy’n seiliedig ar gyflogaeth) sydd ar lefel Addysg Uwch ond heb gael credydau AU.

Os hoffech wneud cais ar gyfer:

Y Cwrs BEng Awyrennau – chwilio am god cwrs LP00874
Y Cwrs BEng Gweithgynhyrchu Uwch – chwiliwch am god cwrs LP51321
Y Cwrs FdEng Gweithgynhyrchu Uwch – chwiliwch am god cwrs LP51320
Ar ôl cwblhau eich Gradd Sylfaen mewn Peirianneg yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen yn uniongyrchol i gwblhau blwyddyn ychwanegol yn rhan-amser i gyflawni BEng Lefel 6 (Anrh) llawn mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch yn ychwanegol at eich FdEng. I gael rhagor o fanylion am hyn, gweler y manylion ar ein gwefan BEng mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch (Trydanol/Mecanyddol)

Dyma rai opsiynau gyrfa posibl yn y diwydiant Peirianneg:

• Peiriannydd Dylunio
• Peiriannydd Prosiectau
• Peiriannydd Systemau Gweithgynhyrchu
• Peiriannydd Cymorth Peirianneg Gweithgynhyrchu Ochr Rheilffordd
• Peiriannydd Rheoli Ansawdd
• Peiriannydd Trydanol
• Peiriannydd Mecanyddol
• Peiriannydd Morol
• Peiriannydd Awyrofod
• Peiriannydd Rheolaeth ac Offeryniaeth
• Peiriannydd Rhwydwaith
• Peiriannydd Diriant
• Peiriannydd Mecatroneg
• Peiriannydd Systemau Pŵer
£9000
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?