main logo

Diploma Lefel 2 FDQ ar gyfer Hyfedredd mewn Sgiliau’r Diwydiant Bragu (Cymru) C0046878

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA17453
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae’r cymhwyster hwn yn Ddiploma sy’n gofyn am gyflawni o leiaf o 37 credyd.

Mae ymgeiswyr yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Mae llawer o ffactorau’n gallu effeithio ar yr amser y bydd yn cymryd i ymgeisydd gwblhau’r cwrs, ond mae disgwyl i’r rhan fwyaf o ymgeiswyr gwblhau o fewn 18 mis.
Adran
Gweithgynhyrchu Bwyd
Dyddiad Dechrau
30 Jul 2024
Dyddiad Gorffen
30 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth gweithwyr yn y sector bragu.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys ystod eang o unedau sy’n rhoi’r cyfle i ddysgwyr ddangos cymhwysedd galwedigaethol mewn amrywiaeth o swyddi yn y sector gan gynnwys:
- Gweithiwr bragu
- Gweithiwr pecynnu a dosbarthu bragu
- Gweithiwr gwasanaeth bragu/gwerthu Gweithiwr sicrhau ansawdd bragu
Dysgu o bell agored ac asesu yn y gwaith.

Bydd eich ymarferydd Dysgu yn y Gwaith y coleg yn ymweld â’r gweithle, y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Mae asesiadau yn cael eu cynnal i asesu cymhwysedd, galwedigaethol a gwybodaeth greiddiol.

Mae cymorth ar-lein ar gael trwy amgylchedd dysgu rhithwir.

Mae dysgu ar ffurf cyfuniad o arsylwadau yn y gweithle, cwestiynau ysgrifenedig a llafar. Lle bo’n briodol/angenrheidiol, bydd yn cael ei ategu gan dystiolaeth tyst, dogfennau’r gweithle, tystiolaeth ffotograffig a thrafodaeth broffesiynol.

Rydym yn ystyried achredu dysgu blaenorol hefyd, ond iddo fod o fewn cyfnod amser penodol.
Mae croeso i ddysgwyr addas o bob oed i ymuno unrhyw bryd o’r flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod yn gweithio ar hyn o bryd yn y maes dysgu hwn a bod gennych gefnogaeth lawn eich cyflogwr.

Byddwn yn dadansoddi’n drylwyr anghenion hyfforddiant pob ymgeisydd sicrhau ein bod yn dewis y cwrs a’r lefelau cywir.
Mae’r cymhwyster ar gael o fewn Fframwaith Prentisiaethau Cymru mewn Bwyd a Diod.

Mae dysgwyr hefyd yn gallu cyflawni’r cymhwyster hwn y tu allan i’r fframwaith prentisiaeth. Mae modd ei ddefnyddio fel carreg gamu i gymwysterau mwy o’r math hwn.
Cysylltwch â’n tîm ymgysylltu â chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?