main logo

FdSc Peirianneg Sain A Chynhyrchu Cerddoriaeth

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP52303
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, 2 flynedd, llawn amser, a ddyfernir gan LJMU (Prifysgol John Moores, Lerpwl)

Bydd gofyn I fyfyrwyr ar y cwrs hwn I ymgymryd â chyfnodau hunanastudiaeth yn ychwanegol i’r oriau sy’n cael eu haddysgu.

Byddwn yn cyflwyno’r rhaglen hon trwy gyfuniad o sesiynau ar-lein a sesiynau wyneb yn wyneb I gyd-fynd â’ch anghenion unigol, yn amodol ar allu gweithi
o dan arweiniad a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru I sicrhau eich diogelwch chi a’n staff ni.
Byddwn hefyd yn parhau I roi cymorth o bell i’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Sylwch, os yw rhesymau diogelwch yn ei hatal rhag trefnu lleoliadau gwaith, byddwn yn addasu modiwlau I gynnwys prosiectau a fydd yn parhau I ddatblygu eich sgiliau yn y gwaith.
Adran
Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth
Dyddiad Dechrau
16 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
31 Jul 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Y tu ôl i bob perfformiad byw neu stiwdio mae amrywiaeth hynod ddiddorol o dechnolegau sain modern. Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi ddysgu am y damcaniaethau a'r cysyniadau sy'n sail i ddefnyddio’r offer hwn, gan eich galluogi i weithio'n annibynnol, datrys problemau ymarferol a chanfod atebion sy'n helpu perfformwyr, cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr i gael y canlyniadau gorau.

Byddwch yn cael defnyddio technoleg sain o'r radd flaenaf yn ogystal â chael cymorth staff sydd â gwybodaeth a phrofiad helaeth yn y maes. Byddwch yn meithrin sgiliau mewn technoleg cyfryngau, electroneg, rhaglenni cyfrifiadurol a thechnoleg stiwdio a chael eich hyfforddi ym mhob agwedd o adloniant byw neu wedi'i recordio. Os ydych yn cyfuno hyn gyda’r profiad ymarferol y byddwch chi'n ei gael petaech yn dewis cwblhau cyfnod profiad gwaith ymarferol, bydd hynny’n rhoi mantais sylweddol i chi wrth ymgeisio am eich swydd gyntaf.

Mae'n bwysig nodi, er bod y cwrs hwn yn cynnwys rhai elfennau sy'n gysylltiedig â materion artistig, nid yw'n gwrs wedi'i seilio ar y celfyddydau. Mae disgwyl i fyfyrwyr hefyd ymgysylltu â damcaniaethau a thechnegau cynhyrchu cyfryngau eraill, lle mae sain yn chwarae rhan fach ond pwysig ynddynt. Mae tair elfen (cynhyrchu; technoleg; rheoli) yn themâu cysylltiol trwy gydol y cwrs, gan gynyddu eich gwybodaeth ar bob lefel.

MODIWLAU:

Blwyddyn 1
4601AMPCC Y Diwydiant Cyfryngau (20 credyd)
4602AMPCC Dulliau Cynhyrchu Cyfryngau (20 credyd)
4603AMPCC Technoleg Cynhyrchiad Sain (20 credyd)
4604AMPCC Cynhyrchu Sain Ymarferol (20 credyd)
4605AMPCC Technoleg Sain (20 credyd)
4606AMPCC Podledu (20 credyd)

Blwyddyn 2
5600AMPCC Recordio Sain (20 credyd)
5601AMPCC Safonau Darlledu (20 credyd)
5602AMPCC Cynhyrchu Fideo Cerddoriaeth (20 credyd)
5603AMPCC Gweithrediadau Perfformiad Byw (20 credyd)
5604AMPCC Gweithrediadau Stiwdio (20 credyd)
5605AMPCC Sain ar gyfer Teledu, Ffilm a Gemau (20 credyd)
Fel rheol bydd eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth yn cael eu hasesu trwy gyfuniad o arholiadau a gwaith cwrs. Ond efallai bydd rhai pynciau yn cael eu hasesu trwy ddulliau eraill, fel portffolio o waith neu waith ymarferol.

Bydd LJMU yn rhoi un dystysgrif ar ôl cwblhau’r dyfarniad yn llwyddiannus.
• 88 o bwyntiau UCAS

• Ar gyfer y Diploma Estynedig, mae angen graddau TTT os ydych yn ei astudio ar ei ben ei hun neu gyfanswm o 88 o bwyntiau UCAS os ydych chi am ei gyfuno gyda chymwysterau eraill.

• TGAU Mathemateg ac Iaith Saesneg gradd C / 4 neu uwch. Efallai bydd angen cyfweliad neu gyflwyno portffolio hefyd.

• Mynediad i Ddiploma AU gydag o leiaf 9 Rhagoriaeth a 36 Teilyngdod neu unrhyw gyfuniad arall sy’n cyfateb i 104 pwynt tariff UCAS mewn pwnc perthnasol.

• Byddwn yn ystyried myfyrwyr hŷn gyda TGAU Iaith Saesneg a Mathemateg gradd C neu uwch, neu gymwysterau cyfwerth, ond heb gymwysterau Lefel 3 traddodiadol, ar sail eu profiad a phortffolio priodol o waith.
Ar ôl i chi gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, efallai byddwch yn dymuno symud ymlaen i astudio cwrs BA (Anrh) Cynhyrchu Sain a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl, neu’n syth i gyflogaeth.

Mae myfyrwyr yn gymwys i symud ymlaen i flwyddyn olaf cwrs BA Anrhydedd, a byddant yn cael cymorth gan staff y coleg a’r brifysgol i benderfynu ar hynny.
£7500

Dylid talu ffioedd i LJMU.

Cod Cwrs UCAS / SLC: 971903
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?