Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
Diploma Lefel 2 mewn Hyfedredd mewn Arwain Tîm yn y Diwydiant Pobi (Cymru) C00/4634/9 37 credyd
Rhestr Fer
Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA16352 |
Lleoliad | Coleg Cambria |
Hyd | Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Diploma yw’r cymhwyster hwn, lle bo angen cyflawni 37 credyd o leiaf. Mae ymgeiswyr yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond disgwylir y bydd angen 18 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny. |
Adran | Gweithgynhyrchu Bwyd |
Dyddiad Dechrau | 30 Jul 2024 |
Dyddiad Gorffen | 30 Jul 2025 |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i ddylunio ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio mewn busnes bwyd neu amgylchedd cadwyn cyflenwi. Mae’n cynnig cyfle i’r dysgwyr feithrin sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen i arddangos cymhwysedd yn y gwaith mewn swyddi rheoli tîm.
Mae’r cymhwyster yn rhoi cyfuniad unigryw o gymwyseddau rheoli tîm i fusnesau bwyd a busnesau cadwyn gyflenwi wedi’u gosod yng nghyd-destun sy'n canolbwyntio'n gryf ar fusnes bwyd. Mae’r cymhwyster wedi’i ddylunio i reoli a gwella perfformiad tîm, sicrwydd ansawdd a'r defnydd o systemau busnes mewn amgylchedd busnes bwyd neu gadwyn gyflenwi.

Dysgu agored o bell ac asesu yn y gwaith.
Bydd eich Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith Coleg Cambria yn ymweld â’r gweithle y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Cynhelir asesiadau cymhwysedd, gwybodaeth alwedigaethol a gwybodaeth greiddiol.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchfyd dysgu rhithwir.
Bydd dysgu yn digwydd trwy gyfuniad o arsylwi yn y gwaith, a chwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar.
Ystyrir credydau o ddysgu blaenorol, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.

Gwahoddir dysgwyr addas o bob oedran i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod yn gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd, a bod gennych gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Mae’r brentisiaeth hon ar gael yn rhan o’r Fframwaith Prentisiaethau Cymru mewn Bwyd a Diod. Gall dysgwyr hefyd gyflawni’r cymhwyster hwn ar wahân i’r fframwaith prentisiaeth.
Gellir defnyddio’r cymhwyster hwn fel hwb i symud ymlaen i gymhwyster uwch megis:
Diploma Lefel 3 ar gyfer Hyfedredd mewn Rheoli Technegol yn y Diwydiant Bwyd (Cymru).
Gellir defnyddio’r cymhwyster hwn fel hwb i symud ymlaen i gymhwyster uwch megis:
Diploma Lefel 3 ar gyfer Hyfedredd mewn Rheoli Technegol yn y Diwydiant Bwyd (Cymru).
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024
17:30
Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024
17:30
Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024
17:30
Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Gweithgynhyrchu Bwyd
Diploma Lefel 4 FDQ ar gyfer Hyfedredd mewn Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd (Cymru) - C00/4816/8
diploma
Gweithgynhyrchu Bwyd
Diploma Lefel 2 FDQ ar gyfer Hyfedredd mewn Sgiliau’r Diwydiant Bragu (Cymru) C0046878
diploma
Gweithgynhyrchu Bwyd
Diploma Lefel 2 mewn Hyfedredd mewn Arwain Tîm yn y Diwydiant Pobi (Cymru) C00/4634/9 37 credyd
diploma