main logo

Lefel 1 Niwro-Anifeiliaid

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01516
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs 1 flwyddyn llawn amser
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r rhaglen Niwro Anifeiliaid Lefel 1 yn rhaglen gynhwysol a gefnogir yn llawn sy'n darparu amgylchedd dysgu a fydd yn gweddu orau i CHI. Bwriad y cwrs hwn yw diwallu anghenion a galluoedd dysgwyr niwroamrywiol ac mae'n ffordd wych o ddysgu mwy am ofal anifeiliaid a'r hyn y gall ei gynnig.

Bydd y Ganolfan Gofal Anifeiliaid a Bridiau Prin rhagorol yn rhoi cyfle i chi ennill sgiliau ymarferol gwerthfawr, gyda mynediad at dros gant o rywogaethau o anifeiliaid. Byddwch hefyd yn ymdrin ag ystod eang o wybodaeth ategol a bydd y cyfuniad hwn yn eich rhoi chi ar ben ffordd yn eich llwybr gyrfa dewisol.

Bydd Niwro Anifail yn eich darparu gyda'r cymysgedd cywir o sgiliau er mwyn i chi ddatblygu eich uchelgeisiau, gan sicrhau eich bod yn cael y profiad a'r wybodaeth cyffredinol gorau i lwyddo. Ar y cwrs byddwch yn gweithio gyda staff arbenigol i ddatblygu eich sgiliau. Gyda chefnogaeth lawn, byddwch hefyd yn datblygu sgiliau byw a bywyd, sgiliau trefnu a sgiliau cyfathrebu cymdeithasol.

Ar y cwrs hwn bydd cymhwyster BTEC Pearson Lefel 1 yn eich darparu gyda’r sgiliau sydd arnoch eu hangen i lwyddo mewn ystod o wahanol unedau ac arbenigeddau. Gallai hyn gynnwys rhai o’r canlynol:-

Bod yn drefnus
Gweithio gydag eraill
Gofalu am anifeiliaid
Bwydo a thwtio anfeiliaid
Trin a chadw rheolaeth ar anifeiliaid
Gweithio o fewn y diwydiant gofal anifeilaid

Bydd datblygiad llythrennedd a rhifedd yn ffocws craidd I bob dysgwr ar y rhaglen, a bydd pob dysgwr yn cael y cyfle I ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru neu gymwysterau TGAU.

Bydd pob dysgwr yn cael Anogwr Bugeiliol a fydd yn eu cefnogi drwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Byddant yn sicrhau bod unrhyw gymorth ADY yn cael ei roi ar waith cyn i’r dysgwyr ddechrau a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a allai godi yn cael eu hymgorffori yn eu rhaglen I'w helpu I lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn I ddiwallu anghenion unigolion a gwahaniaethau dysgu.
Asesu parhaus drwy dasgau a monitro gan diwtoriaid
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y rhaglen hon mae’n rhaid i ddysgwyr gael anawsterau cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth.

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, er bod disgwyl i’r defnyddwyr fod yn gyfarwydd â hanfodion defnyddio cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd, a bod ganddynt Gynllun Dysgu a Sgiliau cyfredol, Addysg neu Gynllun Datblygu Unigol, Cynllun Iechyd a Gofal sy’n dogfennu anhawster cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac o ganlyniad efallai y gallech symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallai dysgwyr symud ymlaen i’r lefel nesaf o ddysgu, fel Gofal Anifeiliaid Lefel 2, Hyfforddeiaeth, Prentisiaeth neu gyflogaeth lawn amser.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?