main logo

FdSc mewn Rheoli Busnes Cymhwysol

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00989
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, 2 flynedd, llawn amser, diwrnod astudio, Gradd Sylfaen (FdSc). Bydd gofyn i fyfyrwyr ar y cwrs hwn ymgymryd â chyfnodau o hunanastudio, yn ogystal â’r oriau a addysgir. Bydd y patrwm ar gyfer addysgu’r cwrs yn un cyfunol (wneb yn wyneb, ar-lein, anghydamseredig).

Mae gan yr FdSc yr opsiwn o 1 flwyddyn atodol i BSc mewn Rheoli Busnes Cymhwysol (LP01249).
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
18 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
31 Jul 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Drwy ddewis Gradd Sylfaen/BSc Cambria mewn Rheoli Busnes Cymhwysol (a ddatblygwyd ac a achredwyd gan Brifysgol Abertawe) byddwch yn astudio sbectrwm eang o bynciau busnes a rheoli (megis marchnata, rheoli gweithrediadau, cyllid, cyfrifeg, strategaeth a rheoli adnoddau dynol).
Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau rhagori a chyrraedd y lefel uchaf o ymarfer rheoli busnes byd-eang.

Prif nodweddion astudio'r radd hon yn Cambria:
• Addysgir pob modiwl gan ein tiwtoriaid busnes blaenllaw sydd ag amrywiaeth o wybodaeth ddiwydiannol ac academaidd ac sy'n hyfforddi arweinwyr busnes o bob cwr o Gymru’n rheolaidd
• Cysylltiadau rhagorol â llawer o fusnesau ac arweinwyr busnes ledled Gogledd Cymru, gyda siaradwyr busnes gwadd, cyflwyniadau a chyfleoedd i rwydweithio
• Darparwr llwybrau prentisiaeth profiadol, gan gynnwys rheoli busnes
• Tiwtor Personol a chymorth un i un
• Cyfleusterau o'r radd flaenaf gyda thechnoleg ragorol

Modiwlau Blwyddyn 1

Marchnata
Rheoli Adnoddau Dynol
Cyllid, Cyfrifeg a Dadansoddeg
Rheoli Gweithrediadau 1
Modiwlau Blwyddyn 2

Arwain a Rheoli Adnoddau Dynol Rhyngwladol
Rheoli Gweithrediadau 2
Rheoli Busnes 1
Prosiect Sefydliadol 1

Am ffi ychwanegol, cynigir ardystiad i fyfyrwyr yn Sylfaen PRINCE2(R), Rheoli Prosiectau yn yr Ail flwyddyn
Addysgir deunydd y cwrs drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau rhyngweithiol, siaradwyr gwadd a gweithdai. Asesir y modiwlau drwy amrywiaeth o wahanol ffyrdd gan gynnwys adroddiadau hunanfyfyriol gyda phortffolio cysylltiedig o dystiolaeth, arholiadau, prosiectau a chyflwyniadau. Lle bo’n bosibl, caiff asesiadau eu marcio’n electronig a byddwch yn cael adborth a phwyntiau ar gyfer gwella ar gyfer pob asesiad. Mae cymorth i fyfyrwyr ar gael gan eich Mentor Academaidd a thiwtoriaid y modiwl drwy gydol eich astudiaethau.

LLEOLIAD GWAITH
Mae’r rhaglen hon wedi’i hanelu at y rhai sydd mewn cyflogaeth (cyflogedig neu wirfoddol) am tua 30 awr yr wythnos o ddechrau’r rhaglen.

Mae rheoliadau Covid mewn grym mewn achosion lle mae Covid-19 yn tarfu ar leoliadau.
Graddau disgwyliedig o 3 Safon Uwch gradd B neu uwch. Nid oes arnom angen Safon Uwch mewn Busnes, Economeg, Mathemateg neu Gyfrifeg/Cyllid. Fodd bynnag, nid ydym yn ystyried Astudiaethau Cyffredinol fel pwnc Safon Uwch at ddibenion cynnig.

• Gradd ddisgwyliedig (neu wedi’i chyflawni) IB o 32-33 neu uwch.

• Derbynnir y Dystysgrif Her Sgiliau fel rhan o’r meini prawf gwneud cais.

• Graddau BTEC (18 uned) DDM neu gyfwerth.

• Diploma Mynediad i AU – Busnes.

• Rhaid i bob ymgeisydd fod â TGAU Saesneg Iaith a TGAU Mathemateg neu Rifedd gyda gradd C neu uwch.

• Rhaid i siaradwyr Saesneg anfrodorol gyflawni 6.0 yn gyffredinol heb unrhyw gydran yn llai na 5.5 mewn IELTS neu brofion cyfatebol.


Bydd unrhyw asesiad o ddysgu blaenorol (fel dyfarniadau datblygiad proffesiynol neu ddyfarniadau seiliedig ar gyflogaeth) sydd ar lefel Addysg Uwch ond heb gredydau AU yn cael ei ystyried fesul achos gan Dîm Derbyn Prifysgol Abertawe.
Mae myfyrwyr sy’n cwblhau’r radd mewn Rheoli Busnes Cymhwysol yn llwyddiannus wedi gwella eu cyflogadwyedd yn y byd busnes. Fel Myfyriwr Graddedig, byddwch yn gallu dangos dealltwriaeth gynhwysfawr o’r sbectrwm llawn o weithrediadau busnes yn y byd go iawn a bod yn hyderus wrth werthuso’r camau gweithredu sy’n ychwanegu’r gwerth mwyaf at sefydliad.
£7,500 blwyddyn 1af LP00989 FdSc mewn Rheoli Busnes Cymhwysol

£7,500 2il flwyddyn LP00989 FdSc mewn Rheoli Busnes Cymhwysol

Os ydych yn dymuno parhau i astudio i lefel BSc:

£9,000 3edd flwyddyn LP01249 BSc mewn Rheoli Busnes Cymhwysol

Bydd y myfyrwyr yn talu am gostau teithio i ac o leoliad gwaith.

Prince2 £250
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?