main logo

Diploma Lefel 2 mewn Chwaraeon

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP87949
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser..
Adran
Chwaraeon a Ffitrwydd
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Saith uned chwaraeon a ffitrwydd, wedi'u rhannu'n dri phrosiect galwedigaethol sy'n gysylltiedig â’r diwydiant.

1. Prosiect ‘Datblygu Sgiliau Ymarferol’
• Cymryd rhan mewn chwaraeon
• Datblygu Sgiliau Chwaraeon ac Ymwybyddiaeth Dactegol

2. Prosiect ‘Gweithio ym maes Chwaraeon’:
• Hyfforddi Chwaraeon
• Gwirfoddoli ym maes Chwaraeon
• Cynllunio a Chynnal Digwyddiad Chwaraeon

3. Prosiect ‘Iechyd a Ffordd o Fyw’:
• Cyflwyniad I Ymarfer Corff Iach a Maeth
• Datblygiad Ffitrwydd Personol Trwy Hyfforddiant

Mae’n ofynnol I chi ail sefyll unrhyw TGAU Mathemateg a/neu Saesneg nad ydynt ar hyn o bryd ar lefel C/4.

Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle I gymryd rhan yng nghwrs Efydd Cynllun Dug Caeredin.
Bydd y saith uned yn cael eu hasesu’n fewnol trwy aseiniadau rheolaidd, gyda gradd lefel llwyddo, teilyngdod neu ragorol.

Bydd asesiadau yn cael eu cynnal ar ffurf aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau rhyngweithiol, podlediadau, fideos, cyfweliadau panel, perfformiad ymarferol a chyflwyno sesiynau hyfforddi.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch, gan gynnwys Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg.

Mae’n rhaid i ddysgwyr sy’n symud ymlaen o gyrsiau lefel 1 lwyddo yn y cymhwyster hwn. Bydd perfformiad ar y cwrs yn cael ei adolygu.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Symud ymlaen i Lefel 3 mewn Chwaraeon:
Cyflogaeth yn y diwydiant chwaraeon ar lefel sylfaen.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?