main logo

Mynediad i Wallt a Harddwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01556
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, 1 Flwyddyn (3 diwrnod yr wythnos)
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol, Dysgu Sylfaen, Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Mynediad i Wallt a Harddwch yn cynnig rhaglen wedi’i chefnogi’n llawn i ddysgwyr ar gam cyntaf eu taith addysg bellach yn y sector hwn.

Bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i bobl ifanc chwalu unrhyw rwystrau s’n eu hatal rhag dysgu, gan ganiatáu iddyn nhw dyfu a datblygu'n bersonol, yn gymdeithasol ac yn academaidd er mwyn llwyddo i gyflawni eu llawn botensial a symud ymlaen i'w lefel nesaf o ddysgu neu gyflogaeth yn y dyfodol.

Bydd y cwricwlwm craidd yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau academaidd a'u gwybodaeth am y sector mewn awyrgylch groesawgar.

Bydd datblygu llythrennedd a rhifedd yn ffocws craidd i bob dysgwr ac unwaith y byddan nhw’n barod, bydd y dysgwyr yn cael cyfle i ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig llawer o dasgau ymarferol a fydd hefyd yn helpu i ddatblygu eich sgiliau Mathemateg, Saesneg a Llythrennedd Digidol.

Bydd Anogwr Bugeiliol yn cael eu pennu i ddysgwyr a fydd yn eu cefnogi drwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Byddan nhw’n sicrhau bod unrhyw gymorth ADY yn cael ei roi ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a allai godi yn cael eu hymgorffori yn eu rhaglen er mwyn eu helpu i lwyddo. Mae'r cwrs yn cael ei gefnogi'n llawn i ddiwallu anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.

Mae Mynediad i Wallt a Harddwch yn cael ei gyflwyno dros dri diwrnod.
Bydd pob dysgwr yn cwblhau asesiadau diagnostig WEST mewn llythrennedd a rhifedd. Bydd myfyrwyr yn gweithio tuag at ystod o unedau i’w helpu i ennill cymhwyster Mynediad Sgiliau Bywyd a Byw, cymhwyster Cyflawni Ymddiriedolaeth y Tywysog a gwobr Efydd Dug Caeredin i gefnogi dilyniant pellach i Addysg Bellach neu Ddysgu yn y Gwaith.
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio ar lefel Mynediad ac felly nid oes angen cymwysterau ffurfiol i gael mynediad i’r cwrs hwn.

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog I wneud y gorau y gallwch yn eich arholiadau. Gorau oll fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych, ac efallai y byddwch yn cael mynediad I gwrs lefel uwch.
Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i gynllunio eu camau nesaf drwy gydol y cwrs. Gallai cynnydd fod yn un o’r canlynol:

Cwrs lefel uwch mewn maes galwedigaethol o’ch dewis chi;
Rhaglen hyfforddeiaeth neu brentisiaethau;
Cyflogaeth;
Rhaglen gymunedol
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?