main logo

Lefel 2 Gofal, Dysgu trwy Chwarae a Datblygu Plant

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00102
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn, lawn amser.
Adran
Gofal Plant, Astudiaethau Plentyndod a Gwaith Chwarae, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cymhwyster yn cael ei lunio ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio yn y sectorau Gofal Plant, Dysgu a Datblygu.

Bydd y cymhwyster yn cynnwys yr wybodaeth graidd a’r ddealltwriaeth y bydd eu hangen i weithio yn y sectorau Gofal Plant, Dysgu a Datblygu. Wrth astudio’r cymhwyster hwn, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth am yr egwyddorion a’r gwerthoedd craidd sy’n sail i arferion Gofal Plant, Dysgu a Datblygu.

Ynghyd â’r cymhwyster Craidd byddwch yn cwblhau’r cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae a Datblygiad Plant: Ymarfer a Damcaniaeth, i ddarparu dysgwyr â’r drwydded i ymarfer, i gynorthwyo gyda gweithio gyda phlant.

Rhai o’r prif bynciau y byddwch yn ymdrin â nhw fydd:
Cefnogi ymarfer craidd mewn gofal, chwarae a datblygiad plant.
Cefnogi chwarae, dysgu, twf a datblygiad
Cefnogi maetheg a hydradu mewn blynyddoedd cynnar
Ymateb i arwyddion o salwch a phlâu/heintiau posibl
Dechrau deall Datblygiad Plant
Diogelu plant
Bydd y cymhwyster yn cael ei asesu drwy gyfres o dasgau asesu mewnol. Bydd tasgau asesu sy’n cael eu marcio’n allanol hefyd gan gynnwys papur amlddewis ac arholiad.

Hefyd byddwch yn mynd ar leoliad gwaith gorfodol yn ystod eich cwrs ble byddwch yn cwblhau 280 o oriau ar leoliad gwaith.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af) a Mathemateg.

Bydd disgwyl i ddysgwyr dilyniant sy’n symud o lefel 1 gyflawni o leiaf Lefel 1 mewn Sgiliau Hanfodol ar gyfer Mathemateg a Saesneg.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster Craidd a lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Damcaniaeth, bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen i gyflogaeth neu gofrestru ar y cymhwyster lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Damcaniaeth a allai eich arwain chi at gwrs gradd prifysgol yn y dyfodol.

Mae enghreifftiau o rolau swydd yn cynnwys y rhai sy’n gweithio dan oruchwyliaeth, fel Cymhorthydd Cylch Chwarae, Cymhorthydd Meithrin, Cymhorthydd Crèche, Gweithiwr Gofal Plant y Tu Allan i’r Ysgol a Chymhorthydd Cylch Meithrin.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?