Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi'r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen arnoch i ddod yn hyrwyddwr iechyd yn y gweithle. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer y rheini sy’n gyfrifol am hyrwyddo dewisiadau iechyd yn y gweithle, neu a hoffai gymryd rhan mewn hyrwyddo iechyd yn y gweithle. Mae'r cymhwyster wedi'i gynllunio mewn partneriaeth ag Active Lancashire gyda ffocws penodol ar weithgaredd corfforol.
Amcanion y cymhwyster hwn yw:
● Cyflwyno'r cysyniad o iechyd yn y gweithle a rôl yr hyrwyddwr iechyd yn y gweithle
● Adnabod y prif ffactorau sy'n effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol
● Deall egwyddorion allweddol newid ymddygiad
● Adnabod yr angen i ddiogelu oedolion fel hyrwyddwr iechyd yn y gweithle
● Deall sut i gynllunio gweithgaredd corfforol yn y gweithle
● Deall sut i gynllunio gweithgaredd corfforol yn y gweithle
Graddfa raddoli o lwyddo yn unig. Asesir deilliannau dysgu drwy bortffolio o dystiolaeth.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn 16 oed neu’n hŷn. Mae’r cymhwyster hwn yn gymhwyster gwybodaeth yn unig. Nid yw profiad gwaith yn hanfodol, ond gan fod y wybodaeth i gyd yn benodol i’r gweithle, byddai hynny’n ddymunol.
Gall y cwrs hwn ddarparu:

● Y wybodaeth greiddiol sydd ei hangen i ddod yn hyrwyddwr iechyd yn y gweithle
a allai arwain at ragor o gyfleoedd i gael dyrchafiad.
● Cyfleoedd i symud ymlaen i gymwysterau lefel uwch (ee. Lefel 3)
Cost – £70 y pen. Ffi Cofrestru £33. Cyfanswm £103.
******Cyllid posibl ar gael i gyflogwyr.
Cysylltwch ag employers@cambria.ac.uk neu Sally Ewing sally.ewing@cambria.ac.uk am ragor o wybodaeth am gyllid posibl i ‘gyflogwyr yn unig’.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?