Lefel 3 Gofal, Dysgu trwy Chwarae a Datblygu Plant

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01384
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd o hyd.
Adran
Gofal Plant, Astudiaethau Plentyndod a Gwaith Chwarae
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gwaith mewn lleoliadau neu wasanaethau Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yng Nghymru ac Iwerddon. Mae’n ymdrin ag ystod oedran o enedigaeth i 19 oed.

Byddwch yn astudio ystod o bynciau gan gynnwys gwerthoedd ac egwyddorion ym maes gofal plant, iechyd, llesiant, dysgu a datblygu, arferion proffesiynol, diogelwch, hyrwyddo chwarae, ymddygiadau ac anghenion ychwanegol.

Mae elfen lleoliad gwaith sylweddol yn gysylltiedig â’r cwrs, a bydd gofyn I chi gwblhau 700 awr o waith o leiaf mewn lleoliad perthnasol dros y ddwy flynedd.

Mae hwn yn gwrs cyfwerth â 3 lefel A.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys cymysgedd o unedau gorfodol a dewisol. Bydd yr unedau’n gymysgedd o wybodaeth a dealltwriaeth a chymhwysedd a sgiliau.

Mae asesiadau felly ar ffurf portffolio o dystiolaeth, asesiadau, arsylwadau a thrafodaethau gan aseswr mewn lleoliad.

Hefyd, bydd angen I chi sefyll:
• Arholiad allanol
• Archwiliad estynedig wedi’I osod a’I farcio’n allanol.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Gwyddoniaeth os yn bosib, neu’ch bod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus.

Bydd dysgwyr sydd heb gwblhau’r Lefel 2 mewn Gofal Plant, Chwarae, Dysgu a Datblygu: Craidd eto hefyd yn cwblhau’r cymhwyster hwn ynghyd â’u lefel 3 er mwyn eu darparu gyda’r drwydded i ymarfer er mwyn gweithio gyda phlant.

Bydd dysgwyr dilyniant sy’n symud o lefel 2 angen o leiaf C/4 yn Saesneg a D/3 mewn Mathemateg neu SHC CRh Lefel 1 a Chyfathrebu Lefel 2.
Bydd dysgwyr yn gallu gweithio tuag at C/4 mewn Mathemateg yn ystod eu cwrs, fodd bynnag, bydd y cyfle I gyflawni trydedd Safon Uwch yn cael ei drafod fesul unigolyn.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae cyflogaeth ar gael mewn Ysgolion Awdurdod Lleol, Meithrinfeydd Dydd, y Gwasanaeth Iechyd, lleoliadau Gwaith Chwarae a Gofal, Unedau Anghenion Arbennig, y diwydiant teithio a gyda theuluoedd preifat sydd angen nani. Hefyd bydd cyfleoedd i deithio tramor.

Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa mewn gofal plant neu leoliadau iechyd.

Gallai cwblhau’r Diploma yn llwyddiannus, arwain at Addysg Uwch fel Gradd Sylfaen mewn Blynyddoedd Cynnar, Addysgu neu Radd Anrhydedd Blynyddoedd Cynnar.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?