main logo

VTCT Lefel 2 NVQ Diploma mewn Therapi Harddwch ac Ewinedd (Dysgu ar Garlam)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00129
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.

4 diwrnod yr wythnos o 9am tan 4.30pm

(Bydd dysgwyr sydd â chymhwyster lefel 1 mewn Harddwch yn astudio am dridiau’r wythnos).

Bydd disgwyl I ddysgwyr fynychu rhai sesiynau gyda’r nos.
Bydd yr amserlen yn cael ei rhannu gyda’r dysgwyr yn ystod y cyfnod ymsefydlu.
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn yn gymhwyster ‘barod i weithio’ sy’n seiliedig ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.

Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi i chi’r wybodaeth, y dealltwriaeth a’r sgiliau gofynnol i weithio’n fedrus fel therapydd harddwch. Trwy gydol y cymhwyster hwn, byddwch yn sicrhau cyfrifoldeb dros leihau risgiau iechyd a diogelwch, hyrwyddo gwasanaethau ychwanegol neu gynnyrch i gleientiaid, datblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith, darparu triniaeth gofal croen ar yr wyneb, gwella edrychiad aeliau a blew’r amrannau, cynnal gwasanaethau cwyr a darparu triniaethau i’r traed a’r dwylo ac ewinedd gel.

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys sesiynau theori ac arholiadau. Enghraifft o’r pynciau fyddwch chi’n eu hastudio ydy; anatomi a ffisioleg, iechyd a diogelwch, a gwerthu cynnyrch a gwasanaethau. Felly mae disgwyl y bydd dysgwyr yn gweithio yn eu hamser eu hunain yn ychwanegol at yr amserlen sydd wedi’u hamserlennu yn y coleg i gwblhau’r gwaith sydd wedi ei osod fel gwaith cartref.

Ar yr un pryd, bydd dysgwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid, eu hymwybyddiaeth o gynaliadwyedd amgylcheddol a'u sgiliau masnachol, y mae cyflogwyr yn rhoi gwerth mawr ar bob un ohonynt. Bydd sgiliau datrys problemau, gweithio mewn tîm ac ymchwilio hefyd yn cael eu datblygu.

Bydd dysgwyr yn cwblhau sesiynau profiad gwaith rheolaidd yn ein salon harddwch a sba o’r radd flaenaf wrth astudio eu cymwysterau. Mae meithrin sgiliau cyflogadwyedd yn elfen hanfodol o’r cwrs hwn.

Yn ogystal â chymhwyster Lefel 2 mewn Harddwch ac Ewinedd, mae rhaglen y maes dysgu yn cynnwys yr elfennau gorfodol canlynol i’r cwrs:

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau Cymraeg
● Rhaid i bob dysgwr gwblhau Lleoliad Gwaith

Sylwch efallai y bydd rhai sesiynau gyda’r nos yn rhan o’ch amserlen. Bydd eich tiwtor yn rhoi’r dyddiadau i chi yn ystod y cyfnod ymsefydlu.

Sylwch y bydd angen cit a gwisg arnoch chi er mwyn gallu astudio’r cwrs hwn.

.
Asesir y gwaith cwrs yn barhaol.

● Asesiadau ymarferol
● Arholiadau
● Portffolio o dystiolaeth.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 1 Therapi Harddwch yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae dysgwyr yn gallu symud ymlaen i Ddiploma NVQ Lefel 3 mewn Therapi Harddwch (llwybrau Harddwch a Sba),
Lefel 3 mewn Therapïau Cyflenwol,
Diploma Lefel 2 mewn Celfyddyd Gwallt.
Gweithio fel Therapydd Harddwch yn y diwydiant harddwch mewn salonau masnachol a sbas neu gownterau manwerthu harddwch.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?