Mae’r cymhwyster UAL yn canolbwyntio ar ystod o unedau meithrin sgiliau, gyda phrosiect mawr terfynol ar ddiwedd pob blwyddyn yn eich maes astudio o’ch dewis. Rhain yw’r unig unedau sy’n cael eu hasesu a’u graddio’n fewnol ac yn allanol. Byddwch yn cael eich asesu ar y ddau bortffolio / gwaith cwrs a’ch cyfraniad ymarferol at gynyrchiadau, prosiectau a digwyddiadau.
Bydd angen 5 neu ragor o TGAU gradd C/4 gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu gwblhau cymhwyster L2 Celfyddydau Creadigol fel y Celfyddydau Perfformio yn llwyddiannus
Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Gall y cwrs hwn arwain yn uniongyrchol at yrfa fel Rheolwr Llwyfan, Cydlynydd Digwyddiadau, Dylunydd Goleuo, Dylunydd Sain, Technegydd Theatr, Criw Gŵyl Technegydd Stiwdio Deledu/Ffilm, Rheolwr Cynhyrchu, Gweithredwr Adloniant, Dyluniad Llwyfan, Gwneuthurwr Propiau, Gosodwyr a nifer o swyddi cysylltiedig.
Mae ein myfyrwyr yn symud ymlaen i weithio ym maes rheoli digwyddiadau neu mewn rolau technegol penodol fel: gweithredu a dylunio goleuadau, fel peirianwyr sain neu reolwyr llwyfan mewn theatrau a lleoliadau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae llawer o’n myfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithredu eu busnesau eu hunain neu weithio yn y sectorau teithio a llogi cyfarpar, gan ddarparu’r arbenigedd a’r sgiliau technegol sydd eu hangen i sefydlu digwyddiadau mawr megis gwyliau, digwyddiadau codi arian a digwyddiadau corfforaethol mawr. Mae’r sgiliau arbenigol ac amrywiol a enillir o astudio Cynhyrchu Theatr a Digwyddiadau Byw yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr mewn meysydd cyflogaeth eraill hefyd fel llongau mordeithio, lleoliadau gwyliau, ystafelloedd dianc, amgueddfeydd a pharciau thema, digwyddiadau chwaraeon, arddangosfeydd ac arenâu.
Mae dewisiadau’r Brifysgol yn cynnwys graddau megis Rheoli Llwyfan, Technoleg a Dylunio Goleuadau, Goleuadau Pensaernïol, Astudiaethau Theatr Dechnegol, Peirianneg Drydanol, Peirianneg Darlledu, Cynhyrchu Digwyddiadau Byw a Rheoli Digwyddiadau.